Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi £45 miliwn yn ychwanegol i gyllid y Gwasanaeth Iechyd i’w helpu i ymdopi â phwysau’r gaeaf.

Daw’r arian, gan gronfeydd y Llywodraeth, yn dilyn ‘cynnydd sydyn’ yn nifer y cleifion difrifol wael sy’n defnyddio’r gwasanaeth iechyd ledled Cymru.

Er enghraifft, mae nifer yr ambiwlansys argyfwng sy’n cyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys wedi cynyddu ers dechrau’r flwyddyn, ar eu huchaf, roedd y nifer yn 22% yn uwch na chyfartaledd Ionawr y llynedd.

Ac ym mis Ionawr eleni, roedd 23% yn fwy o bobol wedi mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys nag oedd ym mis Ionawr 2015.

Roedd 2,300 o alwadau ffôn wedi cael eu gwneud i Galw Iechyd Cymru mewn un diwrnod dros wyliau’r Nadolig, o ystyried bod y gwasanaeth yn derbyn tua 580 o alwadau’r diwrnod fel arfer.

Y siâr fwyaf o’r deisen

£6.7 biliwn sy’n cael ei wario ar wasanaethau iechyd a gofal eleni ac fe fydd y swm hwnnw’n codi i £7 biliwn y flwyddyn ariannol nesaf.

“Yn debyg iawn i rannau eraill o’r DU, mae cyfnod o bwysau a galw sylweddol wedi wynebu’r gwasanaethau gofal brys yng Nghymru ers dechrau’r flwyddyn,” meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford.

“Bydd y cyllid ychwanegol hwn o £45m yn helpu ein gwasanaeth iechyd i barhau i ddelio â’r pwysau cynyddol sy’n ei wynebu ac i reoli’r ymchwydd hwn yn y galw heb i hynny effeithio ar rannau eraill o’r gwasanaeth.

“Byddwn yn parhau i weithio’n agos â’r byrddau iechyd a gydag ymddiriedolaethau’r GIG er mwyn sicrhau bod cleifion yn gallu cael y gofal gorau posibl.”

‘Ystyried’ a oes angen mynd i’r ysbyty

   

Ychwanegodd Mark Drakeford: “Gall bob un ohonom helpu ein Gwasanaeth Iechyd drwy wneud dewis doeth ac ystyried a oes angen mynd i’r adran ddamweiniau ac achosion brys pan fyddwn yn cael anaf neu salwch, a all gwasanaeth iechyd lleol arall helpu, neu a ydym yn gallu gofalu am eu hunain gyda chyngor gan Galw Iechyd Cymru.

“Gall ein hymgyrch Dewis Doeth helpu pobl i benderfynu at bwy i droi i gael yr help sydd ei angen arnynt, yr hyn mae gwahanol wasanaethau’r GIG yn ei wneud a pha bryd y dylid eu defnyddio.”