Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn sefydlu gwasanaethau awdioleg cymunedol er mwyn edrych ar achosion o golli clyw, tinitws a theimlo’n benysgafn.

Mae’r cynlluniau yn rhan o ymdrech y llywodraeth i wella gwasanaeth iechyd y glust, y trwyn a’r gwddf gan geisio rhyddhau gwasanaethau mewn ysbytai i drin yr achosion mwyaf cymhleth.

Yng Nghymru’r llynedd, cafodd yr adran driniaethau’r glust, trwyn a gwddf dros 84,000 o gleifion allanol newydd a chafodd 15,000 o driniaethau eu cynnal.

Gall y gwasanaethau amrywio o gynnal llawdriniaethau plant, triniaethau am ganser i amrywiaeth o wasanaethau i oedolion sydd ag anabledd clyw sylweddol.

Bydd y cynllun yn gorfodi byrddau iechyd i ddeall a mesur y galw a’r capasiti yn y gwasanaethau a sefydlu dull o fesur profiad cleifion ar gyfer y gwasanaethau hyn yng Nghymru.

Golyga hyn y bydd mwyafrif helaeth o gleifion yn cael eu gweld drwy wasanaethau yn y gymuned yn hytrach na mynd i’r ysbyty a chael gofal meddyg.

 

Lleihau apwyntiadau cleifion

Mae mesurau eraill y cynllun yn cynnwys dilysu rhestrau aros i ddileu cleifion nad oes angen apwyntiad neu lawdriniaeth arnyn nhw, gan geisio lleihau rhestrau aros ar gyfer cleifion sydd angen triniaeth frys.

Dim ond apwyntiadau dilynol “gwbl angenrheidiol” fydd bellach yn cael eu trefnu, gan ryddhau amser meddygon i drin mwy o gleifion.

A lle fydd angen apwyntiad dilynol fel claf allanol, bydd hyn yn cael ei gynnal fel “apwyntiad rhithwir”, hynny yw, bydd y claf yn cael cyngor drwy ffyrdd gwahanol o gyfathrebu, yn hytrach na’i fod yn mynd i’r ysbyty.

Bydd grwpiau gofal ar y cyd hefyd yn cael eu sefydlu, rhwng ysbytai, gofal yn y gymuned a gofal sylfaenol er mwyn “rhoi’r grym i gleifion reoli eu hiechyd eu hunain.”

‘Cynnydd yn y galw’

“Mae ein system gofal wedi’i gynllunio yn wynebu heriau sylweddol oherwydd cynnydd yn y galw,” meddai Vaughan Gething, Dirprwy Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru.

“Mae angen newid y system yn sylweddol ac ar frys i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel.”

“Mae’r cynllun ENT (gwasanaethau’r glust, trwyn a gwddf) rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn nodi nifer o newidiadau pwysig y byddwn yn eu gwneud i’r gwasanaethau fel bod y gwasanaeth iechyd yn parhau i ddarparu gwasanaethau gofal wedi’i gynllunio cynaliadwy sy’n gwella canlyniadau cleifion.”