Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad i gefnogi gwelliannau i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Ysbyty Glangwili yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, yn ystod ymweliad â Chaerfyrddin i weld yr uned ar gyfer babis newydd yn Ysbyty Glangwili, fod cyllid ar gael i gefnogi mwy o welliannau i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yr ysbyty yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016/17.

Ym mis Medi’r llynedd, cyhoeddwyd adroddiad oedd yn dweud nad oedd gwasanaethau mamolaeth  Ysbyty Glangwili  yn “addas at y diben”.

Gydag un cam wedi ei gwblhau, nawr mae £3m wedi’i glustnodi ar gyfer y flwyddyn ariannol nesa i ddechrau ail gam y gwelliannau i’r gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glangwili.

Mae disgwyl i’r bwrdd iechyd gyflwyno ei achos busnes ar gyfer ail gam y gwelliannau yn gynnar yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Roedd gwasanaeth mamolaeth dan ofal ymgynghorwyr meddygol wedi’i ganoli ac mae gwasanaeth newyddenedigol lefel dau newydd yn cael ei ddatblygu yn Ysbyty Glangwili yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chyngor gan arbenigwyr annibynnol i’r Gweinidog.

Mae gwasanaeth mamolaeth newydd dan arweiniad bydwragedd wedi’i sefydlu yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Roedd nifer o brotestiadau wedi cael eu cynnal yn Hwlffordd yn erbyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Hywel Dda i israddio gwasanaethau gofal babanod yn Ysbyty Llwynhelyg.

‘Canlyniadau gwell’

 

Mae adolygiad annibynnol gan Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, flwyddyn wedi i’r newidiadau hyn gael eu gwneud, wedi dod i’r casgliad bod y newidiadau yn ddiogel, yn gynaliadwy yn y tymor hir a’u bod wedi arwain at ganlyniadau gwell i famau a babanod. Roedd yn dweud yn glir na fyddai’n gwneud ’dim synnwyr clinigol’ i fynd yn ôl i’r trefniadau blaenorol.

Dywedodd yr Athro Drakeford: “Rwy’n falch o ymweld ag Ysbyty Glangwili heddiw i weld y gwaith ardderchog sydd wedi’i wneud i drosglwyddo’r gwasanaethau gofal arbennig i fabanod o Ysbyty Llwynhelyg, gyda £3.8m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

“Flwyddyn wedi i’r newidiadau gael eu rhoi ar waith, mae adolygiad y Coleg Brenhinol yn dweud bod y gwasanaethau hyn yn ddiogel, yn gynaliadwy yn y tymor hir ac yn bwysicaf oll, wedi arwain at ganlyniadau gwell i famau a babanod.

“Roedd yr adolygiad hefyd yn dweud yn glir na fyddai’n gwneud ’dim synnwyr clinigol’ i ddychwelyd i’r trefniadau blaenorol. Byddai’n anghyfrifol iawn anwybyddu barn yr arbenigwyr.”