Fe gafodd system llywio lloeren ei dwyn o ambiwlans Ddydd Nadolig, tra bod y criw yn tendio i glaf yn ochrau Northampton.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans yr East Midlands wedi cadarnhau fod y lladrad, a ddigwyddodd neithiwr yn Daventry, wedi cael ei riportio i’r heddlu.

“Mae’n ddarn hanfodol o offer y criw wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i lefydd a gwneud eu gwaith,” meddai neges y Gwasanaeth ar wefan Twitter.

“Rydyn ni’n cymryd troseddau fel hyn o ddifri’, ac rydan ni’n gweithio gyda Heddlu Swydd Northampton er mwyn ceisio datrys y mater.”