Gwenllian Boyns
Wrth i system newydd o roi organau ddod i rym yng Nghymru heddiw, mae nith Rhys Meirion, Gwenllian Boyns,  wedi bod yn siarad am ei phrofiadau o godi ymwybyddiaeth am roi organau ar ôl colli ei mam tair blynedd yn ôl.

Fe fu farw Elen Meirion mewn damwain yn ei chartref ac ychydig cyn y ddamwain, cafodd Gwenllian sgwrs â’i mam am roi organau. Dywedodd ei mam y byddai hi am roi organau ei chorff i helpu pobol eraill petai hi’n marw.

Ar ôl cael y sgwrs hon, roedd Gwenllian yn gwybod beth oedd dymuniad ei mam ac fe gafodd pum person gyfle i fyw a gwella ar ôl cael organau Elen Meirion.

“Un neges dwi isio i bawb gymryd ydy trafod y pwnc o roi organau. Dio’m bwys os nad ydych chi isio, jyst siarad a gwybod dymuniad pawb yn y teulu,” meddai Gwenllian ar raglen #Fi Gwenllian ar S4C.

Her Cylchdaith Cymru

Mae’r rhaglen yn dilyn trywydd Gwenllian Boyns wrth iddi gymryd rhan yn Her Cylchdaith Cymru gyda’r elusen Cronfa Elen i godi arian ac ymwybyddiaeth am roi organau a phwysigrwydd trafod hynny gyda’r teulu.

“Roedd Her Cylchdaith Cymru yn her o fynd rownd Cymru mewn gwahanol ffyrdd, ar ddŵr, ar droed, gwneud gwahanol heriau fatha cneifio defaid, i wneud i bobol drafod â’u teulu am eu dymuniadau os byddai’r gwaethaf yn digwydd,” meddai.

Yn ymuno â Gwenllian ar y daith ym mis Gorffennaf oedd ei hewythr Rhys Meirion a rhai o enwogion eraill Cymru, gan gynnwys Tara Bethan, Bryn Fôn a Tudur Owen.

“Mae wedi rhoi cryfder i fi ein bod ni wedi gwneud rhywbeth da allan o sefyllfa ddrwg ac wedi gallu helpu pobol eraill,” meddai Gwenllian Boyns wrth drafod am ei phrofiadau ar y daith.

Cafodd y rhaglen ei ddarlledu neithiwr ond mae modd ei gwylio ar-lein drwy glicio ar y ddolen hon.

System newydd o roi organau

Mae system newydd o roi organau yn dod i rym heddiw, gan wneud Cymru’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system o’r fath.

O heddiw ymlaen, fe fydd pobl dros 18 oed sydd wedi byw yng Nghymru ers dros 12 mis ac sy’n marw yma yn caniatáu i’w horganau gael eu rhoi – oni bai eu bod nhw wedi dweud yn glir nad ydyn nhw am roi eu horganau.