Llun cyhoeddusrwydd yr Ambiwlans Awyr
Fe gafodd 600 o bobol eu helpu yn ystod chwech mis cynta’ gwasanaeth ‘doctoriaid yn yr awyr’ Cymru, yn ôl y ffigurau swyddogol.

Mae hynny’n cynnwys achub bywydau llawer gyda thriniaethau ochr-y-ffordd, trallwysiadau gwaed yn y fan a’r lle a rhoi anaesthetig brys.

Fe ddechreuodd y gwasanaeth ym mis Ebrill, gyda meddygon ac arbenigwyr yn cael lle ar hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru – syniad sydd wedi codi o ddulliau’r fyddin o roi cymorth meddygol.

Roedd 38% o’r galwadau i ddelio gyda phobol a gafodd drawiad y galon neu broblem debyg a 20% i ddamweiniau ffordd.

‘Achosion anhygoel’

“Mae yna achosion anhygoel wedi bod lle mae’r ffaith fod doctoriaid yno wedi arbed bywydau pobol,” meddai arbenigydd anaesthesia Ami Jones. “Mae ychwanegu cynhyrchion gwaed wedi bod yn arbennig o bwysig.”

Mae’r gwasanaeth yn gyfuniad o elusen yr Ambiwlans Awyr, y  Gwasanaeth Iechyd a Llywodraeth Cymru, sydd wedi cyfrannu £2.8 miliwn at y gwasanaeth.