Cafodd bron i 70% o alwadau brys eu hateb gan y gwasanaeth ambiwlans o fewn wyth munud yn ystod mis cyntaf cynllun peilot newydd.

Nod Llywodraeth Cymru yw 65%.

Mae ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi ar gyfer mis Hydref yn dangos bod ambiwlansys wedi ymateb i draean o alwadau brys (34.7%) o fewn pedair munud.

Cafodd 68.7% o alwadau brys eu hateb o fewn wyth munud, a’r amser ymateb ar gyfartaledd oedd pum munud 44 eiliad.

Derbyniodd y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru gyfanswm o 38,155 o alwadau brys yn ystod y mis, sy’n gyfystyr â 1,231 o alwadau bob dydd.

Roedd 1,877 (5%) o’r galwadau hynny gan gleifion yr oedd eu bywydau mewn perygl.

Cafodd 74% o alwadau eu hateb o fewn naw munud, a 78.9% o fewn 10 munud.

Ymateb

Mewn datganiad, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Mae’r ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw’n dangos bod y system newydd yn gweithio, gyda bron i 70% o’r galwadau i Wasanaeth Ambiwlans Cymru lle’r oedd rhywun mewn perygl mawr o farw yn cael ymateb o fewn wyth munud.

“Rwyf eisiau diolch i glinigwyr rheng flaen, ymatebwyr cyntaf gwirfoddol a staff canolfan gyswllt glinigol hynod weithgar y gwasanaeth ambiwlans am eu hymroddiad a’u hymrwymiad.

“Mae eu gwaith wrth ddilyn y model ymateb clinigol newydd yn hanfodol er mwyn cyflawni gwell canlyniadau i gleifion.

“Rydym yn gwybod y gall newid fod yn anodd yn y gwasanaeth iechyd – i staff ac i’r cyhoedd. Fodd bynnag, mae’r ffigyrau cychwynnol yn o’r cynllun peilot hwn yn awgrymu bod y model ymateb clinigol newydd yn sicrhau bod cleifion yn cael y gofal iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn.

“Rwy’n disgwyl i’r gwasanaeth adeiladu ar y canlyniadau cynnar hyn; dysgu gwersi a pharhau i wella i sicrhau bod y sgiliau achub bywyd sydd gan glinigwyr ambiwlans ar gael i’r bobl sydd eu hangen yn yr amser cyflymaf posib ac i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl.”

‘Dechrau da’

Ychwanegodd prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Tracey Myhill: “Rydym wedi cael dechrau da iawn i’r cynllun peilot newydd arloesol hwn, ac mae ffigyrau heddiw’n dyst i hynny.

“Mae ein dyled yn fawr, nid yn unig i’r model newydd – sy’n golygu bod cleifion bellach yn cael y gofal iawn ar yr amser iawn gan y clinigydd iawn – ond hefyd i’r staff sydd wedi bod yn gweithio’n hynod galed i ddarparu gofal o ansawdd uchel, yn brydlon.
“Rydym yn ddiolchgar i’r staff am groesawu’r ffordd newydd hon o weithio, ac i bobl Cymru am eu hamynedd ac am ddeall y sefyllfa wrth inni barhau i wella.

“Rydym yn ymrwymo i adeiladu ar y canlyniadau cynnar hyn ac i ddarparu gwasanaeth ambiwlans y gall ein cleifion fod yn falch ohono.”

‘Yn y tywyllwch’

Wrth ymateb i’r ffigurau heddiw dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams bod y system dargedau newydd “yn ein gadael yn y tywyllwch” ynglŷn â pherfformiad y rhan fwyaf o’r galwadau brys.

O dan y system newydd, meddai, mae’r targedau’n ymwneud a galwadau sy’n cael eu categoreiddio fel rhai “coch”. Nid yw galwadau llai brys – “melyn” a “gwyrdd” – sef 95% o’r holl alwadau, yn ôl data, yn rhan o’r system dargedau.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru hefyd wedi mynegi pryderon nad yw tri o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru – Hywel Dda, Cwm Taf a Phowys – wedi cwrdd â’r targed o 65% er bod y targedau newydd yn cael eu hystyried yn haws i’w cyrraedd.

Dywedodd Kirsty Williams: “Efallai bod y system dargedau newydd yn gwneud bywyd yn haws i weinidogion Llafur ac yn golygu llai o benawdau negyddol bob mis, ond mewn gwirionedd mae pobl yn cael eu gadael yn y tywyllwch ynglŷn â sut mae eu gwasanaeth ambiwlans yn perfformio.

“Y gwir amdani yw nad ydan ni’n gwybod dim am 95& o alwadau ambiwlans mis Hydref a pha mor gyflym roedden nhw wedi cyrraedd.

“Mae’r system newydd yn gam yn ol gan Lafur o ran tryloywder.”

Nid ‘llwyddiant’

Ychwanegodd llefarydd iechyd Plaid Cymru na ddylai Llywodraeth Cymru ddweud bod perfformiad y Gwasanaeth Ambiwlans wedi bod yn “llwyddiant”.

“Mae’r ffigurau’n dangos bod bron i 10% o ambiwlansys wedi cymryd mwy na 15 munud i ymateb i’r achosion mwyaf difrifol lle mae bywyd mewn perygl,” meddai Elin Jones.

“Mae’r Llywodraeth yn parhau i gael trafferth cwrdd â’r targedau, er eu bod nhw wedi eu hisraddio.”