Rhaid i feddygon teulu roi gwybod i’r DVLA os yw gyrrwr yn parhau i yrru pan nad yw’n ddigon iach i wneud hynny, yn ôl canllawiau newydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Dywed y Cyngor Meddygol Cyffredinol fod gan feddygon ddyletswydd i warchod y cyhoedd drwy hysbysu’r awdurdodau.

Yn ôl y canllawiau, ni fydd rhaid i feddygon roi gwybod i gleifion eu bod yn bwriadu hysbysu’r DVLA.

Dywed y canllawiau fod rhaid i feddygon roi gwybod os yw gyrrwr yn debygol o beryglu diogelwch y cyhoedd.

Daw’r canllawiau newydd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar bolisi cyfrinachedd y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Diben y canllawiau yw helpu meddygon i gydbwyso’u cyfrifoldeb cyfreithiol a moesegol o gynnal cyfrinachedd a’u cyfrifoldebau i’r cyhoedd.

Dywedodd prif weithredwr y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Niall Dickson: “Mae meddygon yn aml yn eu cael eu hunain mewn sefyllfaoedd heriol.

“Mae hwn yn faes anodd – bydd y rhan fwyaf o gleifion yn gwneud y peth synhwyrol ond y gwir amdani yw na fydd ychydig yn gwneud hynny a nifer ddim yn sylweddoli eu bod nhw’n berygl i eraill y tu ôl i lyw car.

“Mae gwasanaeth meddygol cyfrinachol yn dda i’r cyhoedd ac mae ymddiriedaeth yn rhan hanfodol o’r berthynas rhwng meddygon a chleifion.

“Ond dydy cyfrinachedd ddim yn absoliwt a gall meddygon chwarae rhan bwysig wrth gadw’r cyhoedd ehangach yn ddiogel os nad yw claf yn ddiogel i yrru.”