Mae canfyddiadau ymchwil diweddar yn dangos nad yw gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobol ifanc yng Nghymru “yn cyrraedd y safon.”

Ar ôl gofyn i 200 o blant a phobl ifanc oedd wedi defnyddio’r gwasanaeth CAMHS (gwasanaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc), fe ddywedodd 75% ohonyn nhw eu bod wedi cael “profiad negyddol”.

Fe ddywedodd 75% o’r defnyddwyr fod ymateb y gwasanaeth “yn araf”, gyda 50% yn dweud nad oedden nhw’n “teimlo fod y gwasanaeth wedi eu cadw’n ddiogel.”

Fe wnaed yr adroddiad ar y cyd rhwng Arsyllfa Cymru ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc, sydd wedi’i leoli yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor.
 Cydweithio ag elusennau

Fe wnaeth y bobl ifanc sydd â phrofiad o CAMHS rannu eu barn drwy arolwg ar-lein, a hefyd drwy gymryd rhan yn yr ysgolion.
“Mae’n bwysig ein bod yn dod â hawliau plant yn fyw drwy fonitro a herio’r ffordd yr ydym yn cyflwyno gwasanaethau i’n plant a’n pobl ifanc,” meddai Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru.

“Rydw i’n gweld yr Arsyllfa’n chwarae rhan bwysig yn yr agenda hwn,” ychwanegodd gan sôn am waith Arsyllfa Cymru fel fforwm i ymchwilio, trafod, addysgu a chyfnewid gwybodaeth am hawliau dynol plant a phobl ifanc.

A hwythau wedi’u lleoli ym Mhrifysgol Bangor ac Abertawe, fe ddywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G Hughes, “rwyf wrth fy modd bod fy nghydweithwyr yn gwneud y cyfraniad hollbwysig hwn, a bydd y cydweithio agos yn ychwanegu at effaith eu hymchwil.”

Fel rhan o’r ymchwil, fe wnaeth Arsyllfa Cymru a Hawliau Plant a Phobl Ifanc gydweithio ag elusennau iechyd meddwl gan gynnwys Hafal, y Sefydliad Iechyd Meddwl, Bipolar UK, a Diverse Cymru i ganfod sut mae modd gwella’r gwasanaethau i bobl ifanc yng Nghymru.