Pauline Cafferkey
Mae nyrs sy’n cael triniaeth am gymhlethdod yn sgil cael ei heintio gydag Ebola yn gwella yn yr ysbyty.

Mae Pauline Cafferkey, 39, bellach mewn cyflwr “difrifol ond sefydlog.”

Cafodd ei chludo i uned arbennig yn Ysbyty’r Royal Free yn Llundain dros wythnos yn ôl ar ôl cael ei tharo’n wael yng Nglasgow.

Mewn datganiad dywedodd yr ysbyty bod cyflwr Pauline Cafferkey “wedi gwella ac mae hi bellach mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.”

Dydd Mercher diwethaf dywedodd yr ysbyty ei bod yn “ddifrifol wael” ar ôl i’w chyflwr waethygu.

Cafodd hi wybod ym mis Rhagfyr ei bod hi’n dioddef o Ebola yn dilyn taith gydag elusen Achub y Plant i Sierra Leone.

Treuliodd fis yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth, ond mae’n ymddangos bod olion o’r haint wedi aros yn ei chorff.