Mae’r gwrthbleidiau wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru yn dilyn cyhoeddi’r ffigurau diweddaraf sy’n dangos bod 28,654 o gleifion wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd.

Mae’r ffigwr yn gyfystyr â chynnydd o dros 1,000 o fewn mis.

Nod Llywodraeth Cymru yw  sicrhau na ddylai unrhyw un orfod aros mwy na 36 wythnos, ac y dylai 95% o gleifion dderbyn triniaeth o fewn 26 wythnos.

Dim ond 84.3% oedd wedi cael eu gweld o fewn 26 wythnos hyd at ddiwedd mis Awst.

‘Gwarth’

Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, “gwarth llwyr” yw’r amserau aros, ac mae hi’n dweud y dylai Llywodraeth Cymru “deimlo cywilydd”.

Mewn datganiad, cyhuddodd Lywodraeth Cymru o “golli rheolaeth ar y Gwasanaeth Iechyd”.

“Mae eu record o ran gwasanaethau cyhoeddus yn un o fethiant a rhaid i’r diffyg uchelgais yma ddod i ben,” meddai.

“Mae safbwyntiau cleifion yng Nghymru wedi cael eu neilltuo am lawer rhy hir.”

‘Amgylchiadau heriol’

 

Wrth feirniadu’r amserau aros, roedd Kirsty Williams yn barod i gydnabod gwaith caled staff y Gwasanaeth Iechyd wrth geisio cyrraedd y targedau sydd wedi cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru.

“Mae staff y Gwasanaeth Iechyd yn gweithio o amgylch y cloc i gynnig y driniaeth orau fedran nhw. Yn anffodus, rhaid iddyn nhw weithio o dan amgylchiadau heriol iawn sy’n gwneud eu gwaith yn eithriadol o anodd.”

‘Cleifion yn talu’r pris’

 

Ychwanegodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar: “Bob mis, rydyn ni’n gweld miloedd yn aros yn hirach nag y dylen nhw am driniaeth ac mae’r ffigurau hyn yn gwbl annerbyniol.

“Mae Gweinidogion Llafur wedi amddifadu ein Gwasanaeth Iechyd o fwy nag un biliwn o bunnoedd dros y pum mlynedd diwethaf, tra bod gwariant ar rannau eraill o’r DU wedi cael ei warchod.

“Mae’r ystadegau amserau aros hyn yn dangos mai cleifion a’u hanwyliaid sy’n talu’r pris.

“Yn hytrach nag eistedd ar eu dwylo a rhoi’r bai am y methiannau hyn ar fyrddau iechyd a’u staff sy’n gweithio’n galed, mae angen cynllun gweithredu a buddsoddiad ychwanegol arnom er mwyn gwyrdroi’r sefyllfa hon.”