Fe fydd Adolygiad Barnwrol yn cael ei gynnal heddiw i benderfynu a oes angen cynnal cwest arall i achos marwolaeth bachgen pum mlwydd oed a fu farw ym mis Hydref 2005.

Fe wnaeth Crwner Gwent, David Bowen, gofnodi rheithfarn naratif yn 2010, yn nodi fod Mason Jones wedi marw o wenwyn bwyd e-coli.

Bydd yr Adolygiad Barnwrol yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil a Theulu, Caerdydd. Roedd Mason Jones yn byw yn Bargoed.