Mae canolfan gyswllt ganolog Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cael ei hagor heddiw yng Ngheredigion a Sir Benfro .
Bydd y ganolfan gyswllt, meddir, yn gwarantu mwy o ddewis i gleifion a llai o amser aros wrth iddyn nhw wneud apwyntiad ysbyty.
Mae’r canolfan cyswllt canolog eisoes wedi’i lansio yn Sir Gaerfyrddin yn ystod diwedd Medi.
Mae’r ganolfan gyswllt ganolog yn gyfuniad o ganolfannau cyswllt Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae’n cynnwys Ysbytai Glangwili, Llwynhelyg a Bronglais, ac fe fydd wedi’i lleoli yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.
‘Hwyluso a chyflymu’
Bydd y ganolfan gyswllt yn hwyluso a chyflymu’r gwaith o drefnu apwyntiadau i gleifion allanol – yn enwedig i bobol sydd â chyflyrau difrifol iawn.
Trwy ffonio un rhif ffôn, bydd defnyddwyr gwasanaethau’n gallu cysylltu a threfnu apwyntiadau’n hawdd. Yn ogystal â hynny, bydd cleifion yn gallu gofyn am opsiwn ‘ffonio’n ôl’ er mwyn osgoi aros ar y ffôn.
“Un o’r prif fanteision y ganolfan gyswllt newydd yw trefnu apwyntiadau i bobol sy’n fodlon teithio, yn hytrach na gorfod aros am ddiwrnodau os nad wythnosau i gael sylw,” meddai Peter Skitt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Aciwt.
“Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo claf wedi’i gyfeirio gan ei feddyg teulu am apwyntiad brys pan fo amheuaeth o ganser, er enghraifft, a phan fydd amser yn eithriadol o bwysig.”
Gall unrhyw un sydd am drefnu, cadarnhau, newid neu ganslo apwyntiad cleifion allanol yn ardaloedd Hywel Dda gysylltu â’r rhif ffôn canolog newydd ar 0300 303 9642.