(llun: PA)
Yn ôl ffigurau newydd, mae doctor sy’n locwm i’r Gwasanaeth Iechyd wedi cael cyflog o bron i hanner miliwn o bunnoedd eleni.

Credir bod y meddyg, sy’n gweithio shifftiau i gyflenwi mewn ysbytai sydd heb ddigon o staff, yn cael mwy o arian nag unrhyw ddoctor arall ym Mhrydain.

Mae papur newydd y Times yn dweud fod data gan gwmni sy’n prosesu taliadau doctoriaid locwm yn dangos bydd y doctor wedi ennill 468,056 erbyn diwedd 2015.

Roedd y locwm a gafodd ei dalu fwyaf y llynedd wedi ennill £441,672 a chostiodd hyn £23,890 yn ychwanegol mewn comisiwn i’r Gwasanaeth Iechyd er mwyn trefnu’r shifftiau.

“Ddim yn gwneud synnwyr”

“Bydd cleifion yn cael hi’n anodd iawn i ddeall neu gyfiawnhau’r math yna o gyflog,” meddai Katherine Murphy, prif weithredwr Cymdeithas y Cleifion wrth y Times.

“Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr pan fydd pobl yn aros yn hirach am lawdriniaethau a phan mae’n anodd i bobl gael y driniaeth maen nhw’n eu haeddu. Os oes arian ar gael i dalu’r ffioedd afresymol hyn i ddoctoriaid locwm, pan nad ydyn nhw’n recriwtio ac yn hyfforddi?”

Dywedodd y grŵp ymchwil Civitas fod cyflog ymgynghorydd i’r Gwasanaeth Iechyd fel arfer rhwng £75,249 a £101,451, felly gallai pedwar ymgynghorydd gael eu cyflogi am bris un aelod o staff asiantaeth.

“Nid yw’r ffigurau hyn ond ciplun o weithgaredd un cwmni, felly dydyn nhw ddim yn rhoi’r darlun llawn o beth sy’n digwydd yn y Gwasanaeth Iechyd,” meddai llefarydd ar ran yr Adran Iechyd yn San Steffan wrth ymateb i’r feirniadaeth.