Mae pobol Prestatyn yn poeni heddiw wrth i ail feddygfa yno gyhoeddi ei bod yn cau ei drysau.

Bydd Meddygfa Seabank – sydd â 2,400 o gleifion – yn dod â’i chytundeb gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ben ym mis Mawrth oherwydd prinder doctoriaid.

Ddechrau’r wythnos hon roedd y bwrdd iechyd yn cyhoeddi bod Grŵp Meddygol Pendyffryn, meddygfa arall ym Mhrestatyn sydd â 18,000 o gleifion, yn gorfod cau.

“Anallu” i recriwtio meddygon

“Mae hyn yn rhagor o newyddion siomedig iawn a bydd cleifion yn iawn i gwestiynu sut byddan nhw’n gallu cael gafael ar wasanaethau gofal sylfaenol lleol,” meddai Darren Millar AC, llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae anallu Llafur Cymru i recriwtio meddygon teulu yn ganlyniad o flynyddoedd o gynllunio gweithlu gwael sydd erbyn hyn wedi arwain at argyfwng mewn gofal sylfaenol yng ngogledd Cymru.”

Un arall sy’n cwyno yw Peter Duffy, cynghorydd annibynnol ym Mhrestatyn.

“Mae’r meddygon i gyd yn ymddeol a does dim meddygon iau yn dod atom ni. Rydym wedi rhybuddio am hyn ers blynyddoedd ond dyw Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd [Betsi Cadwaladr] heb wrando o gwbl. Eu bai nhw yw hyn,” meddai wrth golwg360.

“Dim ond dau neu dri meddyg teulu fydd ar ôl ym Mhrestatyn ar ôl i’r meddygfeydd hyn gau.”

“Sicrhau darpariaeth”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud y byddan nhw’n “sicrhau darpariaeth o wasanaeth gofal sylfaenol” yn yr ardal.

“Dydyn ni ddim yn gwybod o dan ba fath o fodel fydd hyn eto ond byddwn yn defnyddio’r chwe mis nesaf [tan i’r feddygfa gau] i sicrhau bod y gwasanaeth ar gael,” meddai llefarydd ar ran y Bwrdd.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn falch bod y feddygfa yn gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd i sicrhau y bydd gwasanaethau yn cael eu cynnal tra bod y trefniadau rheoli newydd yn cael eu rhoi ar waith,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gofal iechyd sylfaenol, a dyna pam ein bod wedi dosrannu £40 miliwn eleni i weithio gyda’n gilydd ar ein Cynllun Gweithlu Gofal Sylfaenol newydd.”