Dr Ruth Hussey
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru a chyfarwyddwr meddygol GIG Cymru, Dr Ruth Hussey, wedi cyhoeddi ei bwriad i ymddeol y flwyddyn nesaf ar ôl bron pedair blynedd yn y swydd.

Un o’i phrif gyfrifoldebau oedd rhoi cyngor proffesiynol annibynnol ar faterion iechyd a gofal iechyd i Lywodraeth Cymru, ac yn ôl y Llywodraeth mae wedi cael effaith sylweddol ar bolisi iechyd yng Nghymru.

Goruchwyliodd yr ymateb i’r achos mwyaf o’r frech goch ers cyflwyno’r brechiad MMR, gan wella’r cyfraddau brechu ledled Cymru, ac fe arweiniodd y gwaith yn ymateb i fygythiadau iechyd ar draws y byd fel yr achos diweddar o Ebola.

Aeth ati hefyd i gau’r bwlch rhwng iechyd y bobl fwyaf difreintiedig a lleiaf dan anfantais yng Nghymru.

‘Arweiniad’

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford bod “gan arweiniad Ruth Hussey ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) le balch  yn nhraddodiad y llywodraeth i wella iechyd y cyhoedd.”

“Rwy’n ddiolchgar iawn am ei chyngor ac rwy’n dymuno’n dda iddi yn ei hymddeoliad,” meddai mewn datganiad.

Mae disgwyl i Dr Ruth Hussey ymddeol yn y Gwanwyn.