Mae miloedd o bunnoedd o arian y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei wario ar wyliau, aromatherapi, dillad newydd a thai haf i gleifion, yn ôl ymchwiliad diweddar.
Mae’r cylchgrawn Pulse wedi canfod fod cyllidebau iechyd personol yn cael eu gwario ar weithgareddau gan gynnwys gwersi marchogaeth, celf a chynnig hyfforddwyr personol i gleifion.
Cyflwynwyd y cyllidebau hyn yn wreiddiol gan Lywodraeth Prydain i ganiatáu pobol sydd â chyflyrau ac anableddau tymor hir i gael mwy o ddewis a rheolaeth dros y gofal iechyd maen nhw’n ei gael.