Bydd £5.7 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn gwaith ymchwil clinigol yng Nghymru, yn ôl cyhoeddiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, heddiw.

Yr unedau fydd yn elwa o’r buddsoddiad hwn fydd, sefydliad Hap-dreialon Iechyd Gogledd Cymru, Uned Dreialon De-ddwyrain Cymru ac Abertawe, a Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru.

Caiff yr unedau hyn eu rhedeg gan Brifysgol Bangor, Caerdydd ac Abertawe.

Eu prif nod yw gwella iechyd a lles pobol Cymru drwy ganfod triniaethau a chanlyniadau i ystod eang o gyflyrau.

Pwysleisiodd Vaughan Gething y byddai’r buddsoddiad hwn yn sicrhau’r “budd mwyaf posibl o ran ymchwil ac astudiaethau yng Nghymru.

“Ein gweledigaeth yw i Gymru gael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei hymchwil wych ym maes iechyd a gofal cymdeithasol,” ychwanegodd.

Bydd yr unedau’n derbyn buddsoddiad dros gyfnod o dair blynedd, a hoffai’r Gweinidog weld Cymru’n adeiladu ar ei henw da “fel lle ar gyfer treialon ac astudiaethau.”

Uned Dreialon Abertawe

Fel rhan o’r buddsoddiad bydd yr unedau’n ceisio denu mwy o dreialon o ansawdd uchel a ariennir yn allanol i Gymru, datblygu arbenigedd a darparu tystiolaeth ymchwil o fewn amserlenni pendant.

Bydd Sefydliad Gogledd Cymru ar gyfer Hap-dreialon Iechyd yn cael £1.1m, Uned Dreialon De-ddwyrain Cymru yn cael £2.6m ac Uned Dreialon Abertawe yn cael £800,000.

Bydd Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru hefyd yn cael £1.2m dros gyfnod o dair blynedd.

Yn ddiweddar, mae Uned Dreialon Abertawe wedi’i dyfarnu ag achrediad uned dreialu lawn gan sefydliad Cydweithredu ar Ymchwil Glinigol y DU.

Croesawodd yr Athro Keith Lloyd, Deon a Phennaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe y dyfarniad hwn, ac esboniodd fod cael eich cofrestru’n llawn yn gyfystyr â safon aur unedau treialon y DU.

“Llongyfarchiadau i Uned Dreialon Abertawe, ac rwy’n siŵr y bydd yn help i wneud gwahaniaeth i’r gwaith pwysig hwn”, ychwanegodd.