Mae’r gyfradd beichiogi ymysg rhai sy’n eu harddegau yng Nghymru a Lloegr yn parhau i ddisgyn.

Dyna oedd canlyniad y ffigurau a gyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, er bod rhai rhanbarthau wedi gweld cynnydd yn ddiweddar hefyd.

Ond, ar y cyfan, mae’r gyfradd beichiogrwydd wedi disgyn gyda 23.3 o bob 1000 o ferched rhwng 15 a 17 oed yn mynd yn feichiog yng Nghymru a Lloegr o gymharu â 25.4 y llynedd.

Roedd 5,740 o ferched o dan 18 oed yn feichiog yn ystod y tri mis hyd at Fehefin 2014, ac roedd hynny 2% yn is na’r chwarter blaenorol a 9% yn is na’r flwyddyn flaenorol.

Gogledd Orllewin Lloegr oedd â’r gyfradd uchaf o feichiogrwydd, gyda Chymru’n cyfrif am 6% o’r gyfradd honno.

‘Newidiadau cymdeithasol ehangach’

“Rydym ni wedi gweld lleihad mawr yn nifer y babanod sy’n cael eu geni i famau yn eu harddegau yn ystod y ddegawd ddiwethaf”, meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Cynghori Beichiogrwydd ym Mhrydain (BPAS).

“Mae hyn yn rhannol oherwydd gwelliant mewn cyngor ar atal cenhedlu a gwasanaethau ar gyfer merched ifanc”, ychwanegodd y llefarydd.

“Mae hyn hefyd yn adlewyrchu newidiadau cymdeithasol ehangach”, meddai “gyda merched ifanc yn gwireddu uchelgeisiau addysgol a phroffesiynol.

“Er ein bod ni’n parhau i weithio i leihau beichiogrwydd annisgwyl merched yn eu harddegau, rhaid inni gydnabod fod rhai merched am gael plant yn ifanc ac yn cynllunio i wneud hynny.

“Rhaid inni sicrhau eu bod hwythau’n cael cefnogaeth i wneud y penderfyniadau sydd orau drostyn nhw”, meddai’r llefarydd.