Mae nifer y babanod marwanedig yn Lloegr wedi cwympo bron i 8% ers i waharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus ddod i rym, yn ôl ystadegau a gyhoeddir heddiw.

Mae nifer y babanod sy’n marw’n fuan ar ôl eu geni hefyd wedi cwympo gan 8%, yn ôl yr ymchwil gan dîm o wyddonwyr o Brifysgol Caeredin. Fe fuon nhw’n astudio mwy na 10 miliwn o enedigaethau yn Lloegr rhwng 1995 a 2011.

Mae’r darganfyddiadau’n awgrymu fod bron i 1,500 o achosion o fabanod marwanedig wedi’u hosgoi yn y pedair blynedd cynta’ wedi i gyfraith yn gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus gael ei chyflwyno ar Orffennaf 1, 2007.

Mae’r ymchwilwyr hefyd wedi asesu effaith y gwaharddiad ar bwysau babanod, yn enwedig gan fod pwysau bach yn gallu arwain at broblemau iechyd yn nes ymlaen mewn bywyd, fel afiechyd y galon a chlefyd siwgwr.