Nyrs wrth ei gwaith (goodcatmum CCA 2.0)
Roedd Byrddau Iechyd Cymru wedi gwario bron £72 miliwn yn y flwyddyn ddiwetha’ ar hurio gweithwyr iechyd trwy asiantaethau.

Mae’r cyfanswm tros bedair blynedd bron yn £190 miliwn a’r gwariwr mwya’ yw Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y Gogledd, sydd wedi gwario £72 miliwn ei hun yn ystod yr un cyfnod.

Fe ddaeth y ffigurau i’r amlwg ar ôl cais rhyddid gwybodaeth gan y Blaid Geidwadol yng Nghymru ac fe fydd eu llefarydd iechyd, Darren Millar, yn sgrifennu at  Archwilydd Cenedlaethol Cymrui i ofyn iddo ymchwilio.

Dadl Darren Millar yw fod gwario ar weithwyr iechyd o asiantaethau’n arbediad ffug ac y byddai’n well recriwtio’n lleol.

‘Angen hyfforddi rhagor’

Yn y cyfamser, mae Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru yn dweud mai diffyg hyfforddi nyrsys yw rhan o’r broblem.

“Os ydyn ni’n hyfforddi’r nifer cywir o nyrsys yng Nghymru a nhwthau’n byw yma, maen nhw wedyn yn aros yng Nghymru,” meddai llefarydd wrth Radio Wales.

Roedd angen gwneud mwy i gynllunio’r gweithlu, meddai.

‘Dim dewis’

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai ffigwr bychan yw’r arian o gymharu â holl wario’r Gwasanaeth Iechyd ond y dylai Byrddau fynd i’r afael â’r mater.

Yn ôl y Byrddau Iechyd, does ganddyn nhw ddim dewis ond defnyddio asiantaethau i lenwi bylchau.