Mae swyddog polisi a materion cyhoeddus ar gyfer Conffederasiwn y GIG Cymru wedi galw am gryfhau mesurau rheoleiddio safonau bwyd yn Bil Iechyd y Cyhoedd Cymru.

Mewn darn a ysgrifennodd i gylchgrawn y Sefydliad Materion Cymreig, dywedodd Nesta Lloyd-Jones fod Cymru mewn safle perffaith i gryfhau’r cymalau ar reoleiddio safonau bwyd.

Mae egwyddorion y Bil ar hyn o bryd yn cael eu craffu gan Bwyllgor Iechyd y Cynulliad, ac mae Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru wedi cyflwyno tystiolaeth ar ran ei haelodau, y saith Bwrdd Iechyd Lleol a thair Ymddiriedolaeth y GIG yng Nghymru.

Cryfhau mesurau rheoleiddio safonau bwyd

Fel rhan o’r dystiolaeth, maen nhw’n cefnogi’r mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, ond yn tynnu sylw at feysydd lle maen nhw’n credu  y gallai’r Bil fynd ymhellach.

Un o’r meysydd hynny yw cryfhau mesurau rheoleiddio safonau bwyd yn y Bil trwy gynnwys lleoliadau megis ysbytai, ysgolion meithrin a chartrefi gofal.

Yn ôl Nesta Lloyd-Jones, mae ’na botensial enfawr i ddylanwadu ar beth mae’r cyhoedd yn ei ystyried yn fwydydd derbyniol ac yn iach, yn enwedig mewn lleoliadau iechyd.

Ychwanegodd y byddai meini prawf gorfodol ar gyfer darparu eitemau iachach mewn bwytai ysbyty yn helpu ysbytai yng Nghymru i gyflawni eu cyfrifoldeb i wella iechyd y boblogaeth.

‘Gweledigaeth glir’

Meddai Nesta Lloyd-Jones: “Wrth i Fil Iechyd y Cyhoedd barhau ei daith drwy’r Cynulliad, bydd Conffederasiwn y GIG Cymru yn parhau i bwysleisio na ddylai iechyd y cyhoedd gael ei ystyried yn fater ddylai gael ei drin gan y GIG yn unig.

“Mae’n gyfrifoldeb i ystod eang o sectorau ac mae angen cydweithio a datblygu dull ‘iechyd ym mhob polisi’ i fynd i’r afael â’r materion sy’n ein hwynebu.

“Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud hyn i leihau lefelau o afiechyd, ac i leihau ein dibyniaeth gynyddol ac anghynaladwy ar y gwasanaethau iechyd. Mae Bil Iechyd y Cyhoedd i’w groesawu, ac mae’n gam cadarnhaol, ond byddem yn hoffi gweld gweledigaeth glir o’r hyn y mae’n bwriadu ei gyflawni a sut y caiff llwyddiant ei fesur.”