Mae ymchwil meddygol newydd gyhoeddi, yn dweud bod yfed gormod o alcohol  yn “ffenomenon dosbarth canol” ymhlith pobl tros 50 oed.

Yn ôl astudiaeth a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn ar-lein BMJ (British Medical Journal) Open, roedd pobol mewn sydd yn gymharol iach, yn ennill cyflogau da ac wedi cael addysg uwch yn fwy tebygol o yfed yn beryglus.

Rodd yr astudiaeth o 9,000 o bobol dros 50 oed  yn dangos bod dynion sengl neu wedi ysgaru yn dangos mwy o risg o yfed lefel niweidiol, a bod y risg hynny yn codi eto i ddynion yng nghanol eu 60au cyn lleihau wedyn.

Roedd hefyd yn awgrymu bod menywod gyda chyfrifoldebau gofalu yn dangos llai o risg.

Problemau yn “ddiarwybod”

“R’yn ni’n gwybod o’n hymchwil eu hunain y gallai pobl hŷn, yn ddiarwybod, gael problemau iechyd hirdymor yn sgil eu patrymau yfed,” meddai John Larsen, Cyfarwyddwr yr elusen addysg alcohol, Drinkaware.

“Yn wir mae hanner pobol  45-64 oed sy’n yfed i lefelau niweidiol wedi dweud wrthym eu bod yn credu bod yfed yn gymhedrol yn dda i’ch iechyd. Ac mae’r un gyfran yn  meddwl eu bod yn annhebygol o gael mwy o broblemau iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd os byddant yn parhau i yfed ar eu lefel bresennol.”

“Gallai yfed yn  gyson gynyddu’r risg o ddod yn ddibynnol ar alcohol. Dyw’r ffaith nad ydych yn teimlo fel eich bod yn yfed digon i feddwi yn golygu nad ydych yn gwneud niwed i’ch iechyd.”