Mae cyffuriau a allai fod y cyntaf i arafu datblygiad clefyd Alzheimer wedi’u cyflwyno heddiw.
Datgelodd ymchwilwyr ganlyniadau addawol yn dilyn astudiaethau i’r defnydd o gyffuriau solanezumab a aducanumab.
Mae’r canlyniadau’n awgrymu, os yw’r cyffuriau yn cael eu rhoi i gleifion yn ddigon cynnar, y bydden nhw’n gallu arafu dirywiad gwybyddol.
Cafodd y darganfyddiad ei gyhoeddi yng nghynhadledd Cymdeithas Ryngwladol Alzheimer yn Washington DC yn yr Unol Daleithiau.
Ond roedd sgil effeithiau’r cyffuriau yn gynnwys cur pen i fwy na chwarter y cleifion gymrodd ddos uwch o’r cyffuriau mewn profion. Roedd rhwng traean a hanner y cleifion hefyd yn dangos annormaledd wrth gael sgan ar yr ymennydd tra’n cymryd y cyffuriau.
Bydd tua 225,000 o bobl yn datblygu dementia eleni – cyfradd o un bob tair munud.
Mae ymchwil Cymdeithas Alzheimer yn dangos bod 850,000 o bobl yn y DU gyda rhyw fath o ddementia.
Mewn llai na 10 mlynedd, bydd un filiwn o bobl yn byw gyda dementia, ond mae disgwyl i’r ffigwr godi i ddwy filiwn erbyn 2051 wrth i oedran cyfartalog y boblogaeth gynyddu.