Mae achos o’r ffliw adar wedi cael ei gadarnhau ar fferm ddofednod yn Sir Gaerhirfryn, meddai Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

Y straen H7N7 o’r ffliw adar sydd wedi’i ddarganfod ar y fferm, sef y straen sy’n gallu effeithio pobl. Ond dywed Iechyd Cyhoeddus Lloegr bod y risg i’r cyhoedd yn isel iawn, tra bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud nad oes risg i ddiogelwch bwyd.

Mae’r adar ar y fferm yn cael eu difa, meddai swyddogion ac mae safle o 1.8 milltir o gwmpas y fferm yn cael ei warchod.