Llun cyhoeddusrwydd gan NHS Lloegr
Yn ôl adroddiad newydd, mae dros chwarter y bobol sydd wedi cael gwybod bod ganddyn nhw demensia yn ceisio cuddio’r ffaith am eu bod yn ofni stigma.

Mae’r Cyngor Ymchwil Meddygol, a gomisiynodd yr adroddiad, yn dweud bod rhagfarn cymdeithas yn gallu rhwystro diagnosis, gofal ac ymchwil.

Mae elusennau’n amcangyfrif y bydd mwy na 850,000 o bobol yn byw gyda demensia yng ngwledydd Prydain erbyn y flwyddyn nesa’, gyda phobol dros 55 oed yn ofni’r clefyd yn fwy na neb arall.

‘Methu â chael darlun cyfan’

“Os yw pobol yn ofni wynebu arwyddion cyntaf o ddemensia, allwn ni ddim cael darlun cyfan o’r afiechyd a deall sut mae’r afiechyd yn datblygu ac yn amrywio o berson i berson,” meddai Cadeirydd y Cyngor Ymchwil Meddygol, Hugh Perry.

“Mae’n amlwg fod angen deall yn well wreiddiau ac achosion demensia yn ogystal â dileu’r stigma cymdeithasol, fel a ddigwyddodd gyda chanser a HIV.”

Ymchwil llygaid am Alzheimer

Fe fydd darn arall o waith ymchwil yn ystyried a oes modd cael rhybudd o un math o ddemensia trwy astudio’r llygaid.

Mae tystiolaeth gychwynnol yn awgrymu y gallai newidiadau yng ngwythiennau a rhydwelïau’r llygaid fod yn arwydd o’r peryg o glefyd Alzheimer.