Mae nifer y bobol sy’n diodde’ o dementia yn Lloegr wedi saethu i fyny yn ystod y saith mlynedd diwetha’.

Mae Canolfan Wybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSCIC) yn dweud fod cynnydd o 62% wedi bod yn nifer y bobol sydd wedi derbyn diagnosis.

Yn 2013/14, roedd 344,000 o bobol yn diodde’ yn Lloegr – o gymharu â 213,000 yn 2006/07.

Fe allai’r cynnydd fod o ganlyniad i’r boblogaeth yn heneiddio, meddai’r HSCIC, neu’r modd y mae gwell trefn o gofnodi’r achosion bellach.