Mae cyfrifiaduron, tabledi a ffonau clyfar yn cyfrannu at epidemig o achosion o bobol sy’n methu cysgu, yn ol canlyniadau gwaith ymchwil.

Mae arolwg newydd yn dangos fod cymaint a 28 miliwn o bobol – sef chwech o bob deg o gyfanswm pobol gwledydd Prydain – yn cysgu llai na 7 awr y nos.

Mae hefyd yn dangos fod 78% o bobol Lloegr, Cymru a’r Alban yn diodde’ oherwydd eu bod nhw’n ymwybodol o olau glas cyfrifiaduron cyn mynd i gysgu.

Ymhlith pobol 18-24 oed, mae’r nifer yn codi i 91%.

“Mae’r golau glas o’r dyfeisiau hyn yn amharu ar allu’r corff i greu’r hormon, melatonin, sy’n annog cwsg. Felly mae’n bwysig osgoi’r goleuadau, a’r peiriannau hyn, cyn amser gwely,” meddai’r seicolegydd, Richard Wiseman, a gomisiynodd yr arolwg gan YouGov.

Faint ydi digon o gwsg?

Mae faint o gwsg mae rhywun ei angen yn amrywio o unigolyn i unigolyn, ond mae arbenigwyr yn credu bod angen 7-8 awr y nos.

Mae angen mwy na hynny ar bobol yn eu harddegau – tua 9 awr – ond yn aml iawn, dydyn nhw ddim yn cael digon.