“Wrth gwrs fod gan Lywodraeth Cymru arian i’w wario.”

Dyna eiriau Meirion Prys Jones wrtha i fore Mawrth, wrth iddo ddadlau dros wario mwy o arian ar achub yr iaith.

Mae’r Llywodraeth yn gwario 180 miliwn y flwyddyn yng Ngwlad y Basg, meddai, a chanlyniad hynny yw twf aruthrol gydag 80% o blant wyth i naw oed yn medru’r Fasgeg.

Cymharu’n sâl mae’r hyn sy’n cael ei wario gan Lywodraeth Cymru ar y Gymraeg, meddai, sef £25 miliwn y flwyddyn.

Ar y pryd fy default setting newyddiadurol oedd ‘mae pres yn dynn a’r pwrs cyhoeddus yn crebachu fel cerrig Scott yn yr Antarctig’.

Gydag ysbytai yn cau a gweithwyr cynghorau sir yn wynebu’r clwt – ond nid bosus y cynghorau, atolwg, maen nhw’n cael codiadau cyflog – roedd hi’n anodd gen i ddychmygu Llywodraeth Cymru yn gwario mwy ar y Gymraeg.

Ond wele drannoeth gyhoeddiad dim byd llai na syfrdanol gan Leighton Andrews, y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg.

Roedd yn taflu £20,000 at sicrhau dyfodol gŵyl undydd yng Nghaerdydd sy’n hyrwyddo’r iaith yn y brifddinas.

A dyma ddechrau meddwl: ‘Os oes gan Leighton £20,000 i’w daflu ar Dafwyl, faint yn fwy o bres sy’n llechu yn ei bot?’

Gyda chyhoeddiad Leighton, nid oedd geiriau Meirion Prys Jones yn swnio’n naïf o gwbwl.

Do the Math, fel mae’r Ianc mor hoff o’i ddweud….

0.2 % ydy’r ganran o gyllideb Llywodraeth Cymru sy’n cael ei wario ar y Gymraeg – £25 miliwn o’r £14.8 biliwn sydd ar gael eleni.

O ddal ati i wario fel hyn, fe fydd y Gymraeg yn parhau i ymlwybro’n llafurus i’w bedd, medd Meirion Prys Jones.

Y gamp i garedigion yr iaith fydd perswadio Leighton bod angen iddo fynd i’r pwrs cyhoeddus dros yr heniaith.

Mae o eisoes wedi profi’r wythnos hon ei fod o’n barod i wario ar gefnogi’r Gymraeg, felly ddyla hi ddim bod yn rhy anodd cael y maen i’r wal…