Mae Dai Lingual yn blogio o Gaerdydd a’r Fro am ei ‘ddau’ hoff beth : iaith; a’r defnydd ohono ar y we…

Hoffen i ddim ysgrifennu blog yn yr iaith Gymraeg yn cyfeirio at fis Awst 2012 heb sôn am ddewrder Jamie Bevan.  Wrth reswm, rydyn ni gyd yn gefnogol o’r iaith Gymraeg ac yn ceisio’i defnyddio ym mhob rhan o’n bywyd.

Ond, ar ddiwedd y gân y daw’r geiniog ac i raddau mae’r Cymry wedi bod yn rhy hawddgar, yn rhy barod i blesio mewnfudwyr economaidd i’n tir – sut arall y daeth pentref bach Cymreig yng nghefn gwlad a oedd yng nghanol nunlle megis Merthyr i fod yn dre boblog a phrysur a drodd i ddefnyddio iaith estron ?

Nid yn unig iaith y Saeson te, ond hefyd yn “lingua franca” : sef iaith gyffredin rhwng y Cymry a’r Gwyddelod a ddaeth draw i weithio yng Nghymru yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.

A’r dref honno yn etifeddu Cyngor Sirol plwyfol mor ddi-gymraeg eu bod erbyn hyn methu â gwasanaethu Cymry Cymraeg yr ardal honno ar y lefelau mwyaf syml.

Mae’r rhai ohonoch a wyliodd gyfres ddiweddar y BBC (mae’n siŵr mai yn yr iaith fain y byddwch chi’n darllen y talfyriad yna hefyd) yn cael eich atgoffa gan lais y Cymro mwyaf di-gymraeg hwnnw Eddie Butler, mai nid rhai o ardal Merthyr oedd pob un o’r tirfeddianwyr a dalodd am gloddio am lo yn y bryniau cyfagos, ac mai dyna sut y collwyd y dafodiaith leol drwy dreigl amser.

Merthyru

A oes yna felly ddiffyg meddwl annibynnol, entrepreneuriaid hefyd gan geidwaid ein hiaith?

Fe gafodd y dref – y dref fwyaf yn y byd ar un adeg mae’n debyg – ei ferthyru dros yr iaith, a diolch byth bod Jamie Bevan (sy’n dod o’r ardal, wrth gwrs) wedi bod yn barod i ferthyru ei ryddid ef am yr un achos.

Rwy’n gredwr mawr mewn pŵer y Geiniog Gymraeg os liciwch chi h.y. yn fy marn i, os taw grym economegol  ddaeth â’r iaith i ben mewn sawl cwm a llecyn yng Nghymru, yna ond grym economegol fydd yn gallu ei thrawsblannu’n ôl yn llwyddiannus.

Ond nid oes modd ennill y frwydr yma oni bai fod unigolion fel Jamie’n gwneud safiad amlwg i ddatgan nad ydy Cymry’r Gymru fodern yn fodlon i ddioddef statws israddol yn ein gwlad ein hunain rhagor.

Am ba hyd fyddwn ni gyd yn fodlon i ddim ond dymuno’n dda i Jamie’n, yn hytrach nag ymuno ag ef yn y frwydr?

Dyddiadur trydar a Ricky Martin

Er mwyn bod yn siŵr o fy ffeithiau a chael cronoleg y blog yma’n iawn, ro’n i am sicrhau rywsut neu’i gilydd fod pob dim mewn trefn gen i… ond gan fod mis Awst yn amser am dipyn bach o wyliau i’r entrepreneur mwyaf gweithgar hyd yn oed, doedd gen i fawr o gofnod dyddiadur ar bapur, na’ chwaith ar y dyddiadur ffôn.

Felly, wir i chi (a falle nad fi yw’r unig un, ond falle un o’r rhai cyntaf i gyfaddef?) dwi ar hyn o bryd yn mynd yn ôl i fy “amserlen” trydar(u) i weld yn union fues i’n ei wneud dros y mis diwethaf wedi cynnwrf yr Eisteddfod… wel gwefan microblog yw Twitter yndyfe, ac mae’n siŵr taw o’r syniad o “log book” daeth y gair blog yn wreiddiol.

Tybed faint o ohonoch chi sy’n defnyddio Linkedin? Nifer sylweddol yn fwy na’r rhai sy’n gweld budd o ddefnyddio’r wefan “rhwydweithio rhyngweithiol” yna mae’n sicr; ond eto mae’n rhaid bod yna rywfaint o ddefnydd o’r safle neu byddai’r weplyfr ddim mor frwd i’w hefelychu gyda BranchedOut … neu RanOutOfIdeas fyddai’n fwy gonest efallai?]

Fodd bynnag, roedd ffrind i ffrind – ac mae’n gysur rywsut i wybod bod y derminoleg ddim wedi newid gymaint â hynny yn yr oes fodern sydd ohoni – wedi cael ei ychwanegu gan Ricky Martin, neb llai ar wefan ‘linkedin’, felly roedd modd imi geisio ei ychwanegu.  [Gyda llaw, nid Ricky Martin y canwr Latino yn anffodus, ond enillwr The Apprentice yn ddiweddar yn hytrach.]

Wedi llwyddo i wneud hynny (mae’n siŵr gan ei fod yn ymgynghorydd cyfleoedd gwaith roedd ei broffil yn derbyn ceisiadau’n awtomatig), erbyn y prynhawn wedi ‘ny roeddwn i’n siarad â Ricky tra ei fod yn y gym i geisio trefnu ei groesawu yn ôl i Gaerdydd lle bu’n astudio.

Does dim rhyw lawer iawn o drafodaeth wedi bod rhyngom ers hynny rhaid cyfaddef, ond dwi‘n teimlo fy mod i a Ricky un noddwr sylweddol i ffwrdd o gwrdd yn y byd go iawn. Nes i sôn fy mod i wedi bod yn hoff iawn o gyfres Castell Howell ar S4C? Rhag ofn bod Brian eu perchennog yn darllen!

Chwarae teg iddo fe Brian, rhoddodd e nawdd i raglen arbennig Radio Ceredigion ar Graham Henry yn ôl ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf… cyn iddo fe Henry neud y camgymeriad ofnadwy o geisio hyfforddi ei chwaraewyr Cymraeg yr un pryd a gweddill y Llewod.  Diolch byth fod pawb wedi dysgu gwers ers hynny…”

I ddweud y gwir dydi Ricky Martin ddim yn ffitio’r brand dai [:lingual], oni bai fod ganddo une petit Francais?


Dai Lingual yn cynnal gweithdy Trydar yn yr Eisteddfod Genedlaethol (Llun - Rhodri ap Dyfrig)
Cludo Dodrefn

Iawn te, dwi wedi dod o hyd i un pwt ar y trydarbeth sy wastad yn gwneud imi wenu :roeddwn i a’r bois yn mwynhau coffi bach yn @chaptertweets pan ddaeth merched @ylleprint i lan imi i ofyn am fy help;

“Wel,” meddylies i, “dyna braf eu bod yn fy nghofio i o’r sesiwn /gweithdy yn yr Eisteddfod a’u bod nhw am ymgynghoriad dwyieithog ar-lein llawn nawr. Braf tu hwnt”.

“Ie bydde’n grêt pe baech yn gallu dod draw i helpu ni’n syth” meddai un o’r merched; “Mae’r fan yn dal i fod yn llawn o bethau’r Eisteddfod a ni agen tri bachgen cryf i helpu ni symud y stoc yn ôl i’r siop!”

Amser i newid y branding : Dai Lingual; ymgynghori ar-lein a chludo dodrefn yn lleol i chwi!

Dwedwch eich dweud am Dai isod; os am fwy o wybodaeth am Dai Lingual : http://www.dailingual.co.uk