“Cymru a’r Cyfeillion Tramor” – Ysgol Haf Aberystwyth 2012. Llun gan Bruce Cardwell
“Cymru a’i Chyfeillion Tramor” oedd teitl y gynhadledd a drefnwyd gan The European Academy of Modern Celtic Languages and Culture ddiwedd mis Awst yn  Aberystwyth.

Yn hytrach na dilyn un pwnc arbennig, roedd wyth siaradwr o Gymru a thu hwnt yn rhannu’u diddordeb mewn llenyddiaeth a chelf Gymreig, yr iaith Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol eraill gyda’r gynulleidfa fechan.

Ond un pwnc a oedd yn ail-ymddangos yn y rhan fwyaf o’r darlithoedd a gyflwynwyd – delwedd o Gymru tu hwnt i’w ffiniau. Neu ddiffyg unrhyw ddelwedd weithiau, yn anffodus: yn fy mhrofiad fy hun dim ond dau ymateb a gaiff eu clywed yng Ngwlad Pwyl wrth sôn am Gymru. “Darn o Loegr yw hon, ynteu?” bydd rhai yn gofyn tra bydd y rhai mwy addysgedig yn dechrau siarad am ddefodau paganaidd a “hud Celtaidd”…

Delwedd

Yn sicr, mae’r ddelwedd hon yn tarddu i raddau o’r gorffennol , fel y dangosodd Ned Thomas a oedd yn trafod barnau ysgolheigion y 19eg ganrif am Gymraeg, ei “phŵer ysbrydol Celtaidd” a’i hanymarferoldeb  yn y byd cyfoes – eu chwedl hwy.

Cyfieithu llenyddiaeth Gymraeg i ieithoedd eraill yw un ffordd i frwydro’r ystrydebau. Roeddwn i wrth fy modd i allu rhoi fy nghyfraniad bach wrth siarad am fy nghyfieithiad ‘Un Nos Ola Leuad’ i Bwyleg a chlywed am brofiadau pobol eraill.

Nes fwynhau araith Markus Wursthorn, cyfieithwr barddoniaeth Gymraeg  Canol Oesoedd i’r Almaeneg yn arbennig. Diddorol oedd clywed am ei ymdrechion i gyfarwyddo’r  gynulleidfa Almaenaidd â hanes a llenyddiaeth Gymraeg trwy drefnu achlysuron yng nghymdeithas ‘Cadair Taliesin’ a sefydlwyd ganddo.

Cafodd gwaith cyfieithu arall ei gyflwyno gan Dr Diarmuid Johnson. Mae o’n paratoi casgliad o gerddi beirdd Ceredigion yr 20fed ganrif yn Saesneg – a’r casgliad hwn yn creu delwedd o newidiadau ym mywyd y gymuned … ‘nes bod hi’n marw’.

Colli golwg?

Codai darlith George Jones ychydig o felan hefyd wrth iddo drafod tafodiaith marw Ynys Jura a’i waith cofrestru’r siaradwyr olaf. Cododd  y ddadl am anawsterau wrth ddisgrifio tafodieithoedd un o bynciau mwyaf diddorol y gynhadledd – sef dod o hyd i’r ffin rhwng tafodiaith ac agweddau hollol bersonol. Ac onid oes yna’r un perygl tra’n bod ni’n trafod diwylliant a llenyddiaeth – colli golwg ar unigolion wrth inni geisio creu’r darlun eang?

Ond ar y llaw arall, does dim amheuaeth bod yna ddigon o bethau dyn ni’n rhannu i gyd fel Ewropeaid. Neu o leiaf yr un yw’r llwybrau ‘dyn ni’n dilyn wrth chwilio am atebion i gwestiynau hanfodol. Dyna beth ddangosodd  Dr Emilia Ivancu wrth gymharu cerddi dau artist o gefndir hollol wahanol, sef R.S. Thomas a Tudor Arghezi, bardd Rwmanaidd adnabyddus.

Ac un peth arall a ddysgais o’r cyfarfod – does dim rhaid siarad iaith y ddarlith bob tro i ddeall y cynnwys. Dyna beth ddigwyddodd imi wrth wrando am Dr Ceridwen Lloyd Morgan yn cyflwyno darluniau o lawysgrifau Cymreig Canol Oesoedd yn Ffrangeg. Ai adnabyddiaeth o bethau a gafodd eu trafod yw’r esboniad dros hynny…. neu “yr hud Celtaidd”, efallai?

Mae Marta Klonowska yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Poznan yng Ngwlad Pwyl, sydd ar leoliad gwaith gyda Golwg/Golwg360 dros yr haf.

Bydd eitem arbennig gyda Marta, ac Asia Rybelska ar raglen Heno ar S4C heno (nos Fawrth 11 Medi) am 19:00.