Blog cyntaf Dai Lingual, sy’n blogio o Gaerdydd a’r Fro am ei ‘ddau’ hoff beth : iaith; a’r defnydd ohono ar y we…

Fel y gwyddom eisoes, mae’r rhif 3 ag arwyddocâd arbennig i’r Celtiaid – rhif pwysig a chyfrin, ac fe’i gwelir yn y patrymau sy’n olion traed i daith ein hanes llafar.  Mae’n rif pwysig yng Nghristnogaeth hefyd wrth gwrs, ond efallai mai nid fy lle i ydy hi i dynnu’r ddau linyn yna ynghyd!

Tair ffaith i ddechrau felly :

1)      Ges fy enwi a fy medyddio’n David.

2)      Ieithyddiaeth oedd, ac ydy, fy maes, ac o be gofia i felly, amlieithrwydd ydy’r norm ar draws y byd i gyd.

3)      Roedd yn rhaid imi edrych ar Cysgeir (ar Gysgeir?) i sicrhau taw benywaidd yw fy ffeithiau i, fel eich ffeithiau chi hefyd!

ffaith nf fact

Mae’r Tair Chwaer o’r Tymbl wedi bod ar y bocs heno wrth i mi deipio. Digon hawdd cofio taw tair chwaer sydd a thri brawd, llai hawdd efallai cofio taw dau bwrdd a dwy gadair sydd gen i yn y lolfa drws nesa.

Sai’n sôn am fersiwn od o’r gêm “Playschool” ble byddai dyn yn gorfod dyfalu pa beth sydd wedi diflannu o’r bwrdd, ond yn fwy am y fformat od sydd gan ein hiaith o fynnu ar rywogaeth i bob dim.

Fel un sydd ambell waith wedi ceisio dysgu’r iaith hardd yma i ddysgwyr di-Gymraeg, mae’n anodd dros ben esbonio pam bod angen cyfeirio at rywogaeth gymaint; ond i ddweud y gwir unwaith i chi ddysgu fod yna dri bachgen a thair merch, man a man ceisio cadw at y rheol yna ym mhob cyd-destun yn fy marn i.

Fodd bynnag, mae yna nifer o ieithoedd eraill lle mae’r un system yn bod.  Yn benodol, roedd yr Almaeneg a’r Ffrangeg a ges i yn yr ysgol gyfun yn berchen ar rywogaethau hefyd.

Felly cwestiwn tecach fyddai; pam nad yw Saesneg yn gwahaniaethu rhwng rhifo bechgyn a merched?  Cyfrwch un merch, dau merch, tri merch (dim treiglo heb y rhywogaeth cofiwch! – roedd yn rhaid smyglo’r rheiny heibio’r Cysill!) ; mae’n hollol anaddas yndi?!

Sai’n dweud y bod y Gymraeg uwchlaw’r iaith fain ym mhob cyd-destun,

does dal dim ateb deche* i’r cwestiwn :

“A oes unrhyw un yn eistedd fan’na?”

‘Run fath a’r Saesneg, mae’r ateb cadarnhaol, “Oes” gyda symudiad bach o’r pen yn ddigon i ddrysu’r person sy’n gofyn ryw ychydig – efallai’n llai na’r ateb “Yes” cofiwch chi, sy’n rhoi pendro fwyaf anghyfforddus i’r un sy’n gofyn y cwestiwn yn y Saesneg…efallai mai dyna pam nad yw’r Saeson yn rhy hoff o siarad â’i gilydd ar drafnidiaeth gyhoeddus?

Yn Siapan, does yr un broblem yn y byd o’r un fath; mae ganddynt air ychwanegol sy’n fwy tebyg i reol fathemategol sy’n golygu “Dwi’n anghytuno â honiad eich datganiad” sy’n gwneud hi’n eglur yn syth a yw’r gadair (honno!) ar gael neu beidio.

Trïwch hwnna tro nesa bydd rhywun yn gofyn i chi am sedd! : Sayonara problemau!

* gair Cardi yw’ deche/dechau’ mae’n debyg? Ges wybod hynny wrth ddysgu mewn ardal y tu allan i Geredigion (ar) unwaith.

Eisteddfod yn y Fro

Fel y rhan helaeth ohonoch chi mae’n siŵr, mi dreuliais gyfnod digon braf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg eleni. Ar ôl blwyddyn o ymdrechu i hybu digwyddiadau lleol i godi arian tuag at y brifwyl, roedd yn bleser ychwanegol gweld y babell binc yn siffrwd ei stwff yn Llandŵ.

Er, wedi dweud hynny, ni es i’r Pafiliwn eleni – stori hir – ond o leiaf ges y profiad o fwynhau’r babell lên – ie fi oedd yn cyflwyno fy mab bach 15mis i’r XLRs a’r offer trydanol eraill er mwyn ceisio’i gadw’n dawel tra’r oedd ambell i feirniadaeth yn cael ei chyhoeddi!

Dyma blogiadur byr o fy symudiadau wythnos yr Eisteddfod at eich sylw (ac at sylw finnau hefyd i raddau!) ; y storïau’n llawn ar www.blogwyrbro.com #haciaith .

Llun : Cyfweld ag ymwelwyr i’r Gefnlen er mwyn gofyn eu barn am ddefnyddio’r iaith Gymraeg; gweler www.youtube.com/beingWelsh : gan gynnwys cyfweliad â Leighton Andrews, fel oedd y ffoto yng nghylchgrawn Golwg wythnos yr Eisteddfod yn arddangos!

Mawrth : cael camsyniad mod i’n cydlynu gweithdy cynghanedd Twm Morus yn y Gefnlen le oedd #haciaith yn parcio’n technoleg; mwynhau gweithdy cynghanedd Twm Morus beth bynnag.  Cynnal gweithdy rhwydweithio ar-lein gyda www.twitter.com/ylleprint a www.twitter.com/CREUfurniture : gobeithio eu bod wedi gwneud eu gwaith cartref ac ar www.tumblr.com neu www.wordpress.com erbyn hyn!

Hefyd amryw o gyfweliadau i’r BBC fel “arbenigwr ar-lein dwyieithog” gan fod Rhodri Talfan wedi ei synnu bod cyn lleied o Gymry yn edrych ar dudalennau Cymraeg y BBC.  Nes i ddim sôn eu bod nhw i gyd draw fan hyn ar Golwg360!  Gwaetha’r modd; y syniadau gorau yn gallu bod ymhell o’r meddwl pan mae’r meicroffon megis lolipop di-flas o’ch blaen.

Mercher : Nid oeddwn i Dadref, roedd Mrs. Lingual wedi llwyddo i Dad-lwytho’r plant i’r Maes!  Gafon ni diwrnod i’r brenin i ddweud y gwir drwy garedigrwydd yr Eisteddfod a’r stondinau; nes i roi nifer o luniau o weithgareddau di-ri ar www.twitter.com/dailingual ; yn anffodus doedd dim digon o rywbeth-neu-gilydd i lanlwytho’r clip o’r Kate Nash Cymreig, Catrin Herbert, ar stondin Coleg Cymru ond mi oedd hi’n wych. Arbennig.

Iau : Y Tri Brawd sy’n genhedlaeth yn hŷn na finnau ar y Maes; ymgais lwyddiannus i gwmni teledu i gael rhaglen ddogfen am eu hanes ar draws y byd… mond angen dwyn perswâd ar ‘Nhad i ffilmio’r peilot nawr!  Bu Gig Cymdeithas yr Iaith Meic Stephens (roedd wrth ei fodd ac ar dân eisiau chwarae ei oreuon – dim angen deud mwy!) , @Huw_M , #jamiebevan a www.dafwyn.bandcamp.com yn y Clwb Rygbi – cyfle i gwrdd â siarad Lol ag wynebau cyfarwydd.

Gwener : Cwrdd ag elusennau a mudiadau’r Fro ar y Maes, ac yna ; lansiad swyddogol y cwmni Dai Lingual ym mwyty’r Oasis yn Y Barri gyda’r nos; digon o ddawnsio bola a Souvlaki cig moch bendigedig ar Broad St nid nepell o’r orsaf drenau!

Dechreuais yr wythnos gan ysgrifennu pwt ar farchnata ‘firal’ fel Blogwr Bro, bennais yr wythnos wedi llwyddo i ryw raddau yn y grefft gudd yna; pe bawn i wedi gwahodd y Post Cyntaf, rhaglen Newyddion y BBC/S4C a Good Evening Wales i lansiad Dai Lingual ar y Maes, dwi’n amau y bydden nhw wedi troedio canllath draw i’m cwrdd.  Ond, mi ddaeth rhagolygon gofidus Rhodri Talfan Davies â storm o Daffi-a draw i fy nglannau i ar Ddydd Mawrth ta beth.  Mwyn-ha’ nes i felly am weddill yr wythnos.

Mi a i ati i ddiweddaru’r blog yma gyda fy ngweithgareddau ers yr Eisteddfod, yn y cyfamser mwynhewch y sgwrs unochrog yma ges gyda’r mab sy’n bymtheg mis : ar hyn o bryd mae Dad â’r gallu i ennill bob dadl yn iaith Hen Wlad fy Nhadau !  Am ba hyd tybed…