Mi fydd dysgwyr Cymraeg ifanc yn dod at ei gilydd ar gyfer cynhadledd arbennig yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Dyma’r ail dro i’r Urdd gynnal cynhadledd o’i math yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd, ac mae disgwyl i tua 50 o ddysgwyr Cymraeg ifanc o ysgolion ledled Cymru ddod at ei gilydd fel rhan o’r cynllun ‘Cymraeg Bob Dydd’.

Nod y cynllun hwn yw rhoi cyfle i bobol ifanc yng Nghymru i ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg y tu allan i wersi yn yr ysgol, gan ddangos iddyn nhw fod yr iaith yn gallu cael ei defnyddio bob dydd.

Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’u nod i sicrhau bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn cynyddu i filiwn erbyn y flwyddyn 2050.

“Cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg”

 Yn ôl Hannah Wright, Cydlynydd Ail Iaith Cenedlaethol yr Urdd, mae yna “wledd” o weithgareddau wedi’u trefnu ar gyfer y penwythnos, gan gynnwys sesiwn clocsio gan y cyflwynydd, Tudur Phillips, a gig gan y band, Wigwam.

“Rydym wrth ein boddau gallu cynnig cyfle fel hyn i ddod â chymaint o bobl ifanc at ei gilydd mewn un man i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai.

“Cawsom adborth gan fynychwyr y gynhadledd llynedd fod y penwythnos yn gyfle arbennig iddynt fwynhau gyda ffrindiau newydd mewn awyrgylch Cymreig.”