(Llun: Rory Steel)
Mae dynes o Girona yng Nghatalwnia wedi anfon fideo at golwg360 yn dangos y protestiadau fu yno ddoe yn erbyn trais heddlu Sbaen adeg y refferendwm annibyniaeth.

Mae Eva Chapela yn chwaer i Ruben Chapela sydd bellach yn diwtor iaith ym Mhrifysgol Bangor ac a ddychwelodd i Girona dros y Sul i fwrw’i bleidlais yn y refferendwm annibyniaeth.

“Mae pobol wedi dangos bod nhw’n parhau efo’r broses gan wneud streic fawr,” meddai Ruben Chapela wedyn wrth golwg360.

Mae’n cyfeirio hefyd at araith Brenin Sbaen, Felipe VI, wnaeth gyhuddo awdurdodau Catalwnia o dorri’r gyfraith yn fwriadol ac o “ymddwyn yn anghyfrifol”.

“Dydi o ddim wedi sôn am ddeialog, y bobol sydd wedi cael eu hanafu, nac ewyllys i wrando.

“Brenin sydd ddim wedi cael ei bleidleisio yn siarad am ddemocratiaeth ac undod. Siomedig.”