Ap Magi Ann (Llun: Menter Iaith Sir y Fflint)
Doedd prif swyddog Menter Iaith Sir y Fflint, Gill Stephen ddim wedi rhagweld llwyddiant ap Magi Ann, sydd wedi ennill gwobr y Loteri Fawr am roi cymorth i rieni wrth helpu eu plant i ddarllen yn Gymraeg.

Mae’r ap wedi cael ei lawrlwytho dros 100,000 o weithiau erbyn hyn, ond fel yr eglurodd wrth golwg360: “A bod yn hollol onest, ar y dechrau, buasen ni wedi bodloni ar ychydig gannoedd. Doedden ni ddim wedi anelu mor uchel â hynny ond yn syth ar ôl i ni lansio ym mis Tachwedd 2014, wnaethon ni sylweddoli bod y peth yn mynd yn gyflym iawn.

“Oedden ni wedi cael lot fawr o lawrlwythiadau cyn i’r prosiect gael ei enwebu am Brosiect Addysg Gorau’r Loteri Fawr ond ers hynny, ’dan ni ymhell dros y 100,000.”

Ap a gafodd ei ddatblygu yn Sir y Fflint yw Magi Ann, fel ymateb i anghenion y gymuned leol, lle mae canran uchel o bobol ddi-Gymraeg ond sydd wedi dewis anfon eu plant i ysgol Gymraeg.

“Nod yr ap,” meddai Gill Stephen, “ydi helpu’r rhieni hyn gydag ynganu geiriau a deall wrth ddarllen gyda’r plant.”

Beth yw ap Magi Ann?

Mae’r ap yn galluogi rhieni i bwyso ar y geiriau ar y sgrin er mwyn darganfod sut mae eu hynganu nhw’n gywir, ac mae’n cynnig cyfieithiadau o’r geiriau Cymraeg.

Mae adnodd o’r fath, yn ôl Gill Stephen, “wedi bod yn hwb mawr iawn i ni yn yr ardal”.

Gyda’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol ar gynnydd yn y Gymraeg, mae’r ap wedi dod yn adnodd pwysig wrth geisio egluro beth yn union yw gwaith y Fenter Iaith, meddai.

“Rydan ni’n sicr wedi sylwi gyda nifer o gysylltiadau gan bobol y gymuned leol drwy’r cyfryngau cymdeithasol neu e-bost neu jyst pobol yn dod i siarad â ni bod llawer iawn mwy o ymwybyddiaeth yn yr ardal nawr ynglŷn â beth yw ein gwaith a pha fath o bethau ’dan ni’n gallu gwneud er mwyn hyrwyddo a hybu’r iaith yn yr ardal.

“Dwi’n meddwl bod o wedi bod yn andros o help i ni, jyst er mwyn cael y gymuned leol i sylweddoli beth yn hollol yw’r Fenter a beth yw ein gwaith achos tydi hynny ddim y peth hawsaf yn y byd i’w egluro, yn enwedig wrth bobol ddi-Gymraeg achos bod o mor ddieithr iddyn nhw.”

Y wobr

Yn sgil eu llwyddiant, mae’r Fenter Iaith wedi derbyn £5,000 er mwyn ehangu eu gwaith yn gyffredinol, ac fe allai hynny olygu datblygu’r ap ymhellach, yn ôl Gill Stephen.

“Rydan ni’n teimlo’n bod ni wedi dod o hyd i rywbeth fan hyn sydd yn addas iawn i anghenion cyfoes, dim jyst yr ardal yma ond ardaloedd tebyg lle mae ’na ganran gymharol uchel o siaradwyr neu bobol ddi-Gymraeg.

“Rydan ni’n meddwl bod y math hwn o adnodd yn addas iddyn nhw ac i siaradwyr Cymraeg achos mae ’na fersiynau gwahanol o’r ap. Mae ’na un ar gyfer siaradwyr iaith gyntaf ac un ar gyfer y rhai sydd angen cefnogaeth gyda’r Gymraeg.

“Rydan ni’n teimlo bod o’n hawdd i ni addasu pethau fel hyn a ’dan ni’n gweld, os ydan ni’n mynd i gyrraedd y nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg gymaint erbyn 2050, mae angen rywsut i ni gynyddu a’n targed ni wedyn yw pobol ddi-Gymraeg sydd o bosib wedi penderfynu eu bod nhw eisiau i’w plant nhw siarad Cymraeg.”