Mae heddiw yn ddathliad o’r holl ieithoedd lleiafrifol sy’n cael eu defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae’r ymgyrch ‘Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd’ yn annog pobol i ddiweddaru eu cyfrifon cymdeithasol gan gyfeirio at yr hashnod #EDL2017 ac yna enw eu hiaith, er enghraifft #EDL2017 #Cymraeg.

Enw’r ymgyrch yn Gymraeg yw ‘Diwrnod Cyfryngau Cymdeithasol Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Bychain’ a’r hashnod yw #DILl2017.

Bwriad yr ymgyrch yw annog pobol i ddefnyddio eu hiaith ar y we a chodi ymwybyddiaeth pobol eraill atyn nhw.

Rhai o’r ieithoedd eraill sy’n rhan o’r ymgyrch yw Catalaneg, Ffriseg, Galiseg, Gaeleg, Basgeg, Manaweg, Llydaweg a Chernyweg.

Mae’r ymgyrch yn annog cwmnïau ac enwogion i fod yn rhan o’r ymgyrch a dathlu eu hieithoedd.