Mae banc Santander wedi ymddiheuro am “unrhyw ofid anfwriadol” sydd wedi cael ei achosi trwy iddo wrthod derbyn dogfennau Cymraeg.

Fe ddaeth i’r amlwg ddydd Llun (Medi 25) bod banc Santander wedi gwrthod ffurflenni aelodaeth mudiad Cymdeithas yr Iaith, gan eu bod wedi’u cyflwyno yn Gymraeg.

Ymatebodd y mudiad trwy nodi ei fod yn “hollol annerbyniol” bod cwmnïoedd preifat yn medru gwrthod cynnig darpariaeth Gymraeg.

“Ymddiheuriad”

“Mae Santander yn derbyn dogfennaeth Gymraeg, gan gydymffurfio â’n Polisi Cymraeg,” meddai llefarydd ar ran Santander wrth golwg360 (trwy gyfrwng y Saesneg).

“Os dydi ein polisi ni ddim wedi cael ei ddilyn. Ymddiheurwn am unrhyw ofid anfwriadol gall fod y mater yma wedi ei achosi. Mi fydd y mater yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau nad yw’n digwydd eto.”

Mae’r banc hefyd yn nodi ei bod yn ymgynghori â Chomisiwn y Gymraeg er mwyn “sicrhau parhad ein cefnogaeth i gymunedau Cymreig.”

Alun Davies

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, ac wedi ei herio i fynd i’r afael â diffyg darpariaeth Gymraeg yn y sector breifat trwy ddeddfu.

Mae Alun Davies eisoes wedi ymateb i’r Gymdeithas mewn neges ar wefan Twitter gan nodi: “Byddaf yn deddfu. Ac (sic) dwi’n edrych ymlaen i gael eich cefnogaeth.”