Mae 50 allan o 90 Aelod Cynulliad Gogledd Iwerddon yn cefnogi Deddf Iaith Wyddeleg newydd, ac mae ymgyrch drawsbleidiol ar droed i’w chyflwyno.

Fe fydd arweinwyr y pum plaid – Paula Bradshaw (Alliance), Steven Agnew (y Blaid Werdd), Gerry Carroll (PBP), Nicola Mallon (SDLP) a Gerry Adams (Sinn Fein) yn dod at ei gilydd yn ninas Belfast heddiw i drafod y ddeddfwriaeth.

Dyma’r tro cyntaf i arweinwyr yr holl bleidiau gyfarfod â’r Conradh na Gaeilge (Cymdeithas yr Iaith Wyddeleg) i gefnogi deddfwriaeth newydd.

‘Neges glir iawn’

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd y mudiad, Dr Niall Comer: “Mae neges y digwyddiad heddiw’n glir iawn: mae cefnogaeth eang, drawsbleidiol, fwyafrifol i Ddeddf Iaith Wyddeleg.

“Mae Conradh na Gaeilge wedi bod yn cyfarfod yn gyson â’r holl bleidiau, gyda phump ohonyn nhw bellach yn cefnogi galwad y gymuned am Ddeddf Iaith Wyddeleg sy’n sefyll ar ei thraed ei hun.

“Mae’r gefnogaeth honno’n cyfateb i 50/90 Aelod Cynulliad a chefnogaeth fwyafrifol hanesyddol o fewn y Cynulliad am y tro cyntaf. O ystyried y mwyafrif hwn, galwn nawr ar i’r rheiny sy’n parhau i wrthwynebu Deddf Iaith Wyddeleg i ystyried eu safbwynt a chydnabod mai nawr yw’r amser am newid.

“Hoffai Conradh na Gaeilge ddiolch i’r pleidiau am eu cefnogaeth hyd yma, ond rydym yn galw arnyn nhw i barhau i sefyll gyda’i gilydd dros a gyda’r gymuned wrth i drafodaeth Stormont ail-ddechrau.”

‘Ymgyrch ryfeddol ar lawr gwlad’

 “Mae dros 20,000 o bobol wedi llenwi strydoedd Belfast, Newry a Derry hyd yma eleni yn galw am Ddeddf Iaith Wyddeleg,” meddai Ciarán Mac Giolla Bhéin, Rheolwr Eiriolaeth Conradh na Gaeilge,:

“Mae cefnogaeth y pum plaid hyn yn adlewyrchu’r hyn sy’n cael ei weld ar y strydoedd o ganlyniad i ymgyrch ryfeddol ar lawr gwlad gan y gymuned iaith Wyddeleg.

“Yn ystod yr ymgynghoriad diweddaraf o blith tri ar Ddeddf Iaith yn 2015, roedd 94.7% o’r 13,000 o ymatebion yn cefnogi darpariaeth ddeddfwriaethol ar gyfer y Wyddeleg.”

Ychwanegodd fod cefnogaeth gwleidyddion, y cyhoedd, Llywodraeth Iwerddon, Cyngor Ewrop, y Cenhedloedd Unedig a Chomisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon yn dangos bod “cefnogaeth eang ar draws y byd” i ddiogelu’r Wyddeleg.

“Mae’r Gymuned Iaith Wyddeleg wedi bod yn aros yn rhy hir am yr addewidion a wnaed i ni yn St Andrew’s gael eu gwireddu – heddiw, safwn gyda’n gilydd dros newid go iawn.

“Acht Anois (Deddf Iaith Nawr).”