Golygfa o'r eitem (BBC 2)
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ddiswyddo golygydd y rhaglen Newsnight, Ian Katz, tros wrthdaro ynglŷn ag eitem am y Gymraeg yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Mae’r Gymdeithas yn honni ei fod yn camarwain wrth honni nad oedd y Gymdeithas ar gael i gymryd rhan yn yr eitem sydd wedi cael ei chondemnio’n eang am ddilorni’r iaith.

Mae Cadeirydd y Gymdeithas, Heledd Gwyndaf, wedi cyhuddo Ian Katz o ysgrifennu llythyr sy’n “ffeithiol anghywir, yn haerllug ac yn sarhaus” wrth ymateb i gwyn am yr eitem gan Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd, Arfon Jones.

Mae hefyd yn honni bod y llythyr yn datgelu agweddau afiach tuag at y Gymraeg ac wedi galw ar i bobol beidio â thalu eu trwydded deledu er mwyn dangos eu gwrthwynebiad.

Yr anghytundeb

Roedd Ian Katz wedi awgrymu nad oedd neb o Gymdeithas yr Iaith ar gael neu eisiau cymryd rhan yn yr eitem i drafod a oedd y Gymraeg yn help neu hindrans i Gymru.

Ond, yn ôl Heledd Gwyndaf, roedd hi wedi cynnig gwneud cyfweliad o stiwdio’r BBC ar faes yr Eisteddfod ym Modedern, Môn.

Mae’r BBC yn dweud bod y cynnig hwnnw’n rhy hwyr i wneud trefniadau ond dydyn nhw ddim eisiau gwneud datganiad pellach.

Ateb Cymdeithas yr Iaith yw eu bod wedi cynnig dewisiadau eraill, gan gynnwys cyfweliad o stiwdio’r BBC ym Mangor.

‘Rhan o batrwm’  

Mewn datganiad, dywedodd Heledd Gwyndaf fod yr hyn a wnaeth y BBC wrth ei chadw hi draw o’r rhaglen “yn rhan o batrwm… o ddilorni a bychanu Cymru a’r Gymraeg”.

“Mae’n gliriach byth nawr mai datganoli darlledu i Gymru yw’r unig ffordd o ddatrys y problemau hyn yn barhaol.

“Ond, mae’n rhaid dweud bod cynnwys y llythyr mor frawychus, rwy’n credu y dylai golygydd y rhaglen gael ei ddiswyddo am ei agwedd ragfarnllyd a sarhaus.

“Mae mwy a mwy o bobol Cymru yn gweld na ddylen ni fod yn talu ein ffi drwydded deledu er mwyn ariannu cyflogau pobol a rhaglenni fel hyn a darlledwr Prydeinig sydd mor wrth-Gymraeg.

“Byddwn ni’n annog y bobl sy’n ddig am hyn i ymuno â’r boicot o’r ffi drwydded nes bod darlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru.”