Mae Banc Lloyds wedi cythruddo’r Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe, Mike Hedges ar ôl iddyn nhw wrthod dogfen Gymraeg.

Roedd ei ferch Catrin am agor cyfrif banc newydd fel myfyrwraig ar ôl cael ei derbyn i astudio Cymraeg a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd ganddi gyfrif cyfredol gyda’r banc eisoes.

Ond gan fod ei llythyr UCAS yn Gymraeg, roedd cangen Abertawe o’r banc yn gwrthod ei dderbyn fel dogfen er mwyn agor y cyfrif newydd.

‘Polisi’

Dywedodd Mike Hedges wrth golwg360 fod y banc wedi dweud wrtho mai eu polisi yw “peidio â derbyn dogfennau yn Gymraeg”, a bod rhaid cyflwyno’r ddogfen yn Saesneg cyn y câi ei ferch agor y cyfrif newydd.

Y cam nesaf

Dywedodd nad yw ei ferch wedi gallu gwneud unrhyw beth eto tra bod ganddi’r llythyr yn Gymraeg yn unig.

“Roedd ei chais yn Gymraeg, ac felly mae’r llythyr i dderbyn y lle yn Gymraeg hefyd.”

Ond dywedodd ei fod yn bwriadu mynd â’r achos ymhellach.

“Dw i’n bwriadu mynd at y banc ac at Gomisiynydd y Gymraeg oherwydd, er nad yw banciau’n rhan o waith Comisiynydd y Gymraeg, dw i’n credu y dylai hi leisio ei barn.

“Dw i hefyd yn bwriadu mynd at Lywodraeth Cymru.”

Ymateb

Dywedodd llefarydd y byddai staff Lloyds yn derbyn canllawiau clir yn dilyn “dryswch”.