Y faner o flaen Y Blac heddiw
Mae un o dafarnau hynaf Caernarfon yn brolio mai hi ydi’r dafarn Gymreiciaf yn y byd i gyd.

Mae’r Black Boy (y Blac i’r locals) yn Stryd Pedwar a Chwech yn nhre’r Cofis, newydd gael baneri anferth sy’n chwifio’n falch y neges ‘Y bwyty neu dafarn fwyaf Cymraeg yn y byd’.

Mae fersiwn Saesneg o’r faner hefyd yn galw’r sefydliad, sy’n dyddio o tua’r flwyddyn 1522, “the Welshest pub in the world”.

Yng Nghaernarfon hefyd y mae’r dafarn sy’n honni bod y leiaf yng Nghymru, sef Bar Bach.