Rhaid i raglen BBC Newsnight “ddangos elfen o gwrteisi” tuag at y Gymraeg os ydi hi am drin yr iaith yn y dyfodol, yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Daw rhybudd Arfon Jones, mewn llythyr i olygydd y rhaglen yn dilyn rhifyn wythnos ddiwethaf lle bu gwesteion di-Gymraeg yn trafod “a ydi’r Gymraeg o help neu’n hindrans i’r genedl”.

Mae’r rhifyn eisoes wedi denu ymateb chwyrn am y ffordd y cafodd yr iaith ei phortreadu, ac mae deiseb yn galw am adolygiad o bortread y BBC o’r Gymraeg wedi derbyn dros 7,000 llofnod.

Yn y llythyr mae Arfon Jones yn erfyn ar y Golygydd, Ian Katz, i “wneud [ei] waith cartref” cyn caniatáu i raglen debyg fynd ar yr awyr eto.

Mae hefyd yn nodi y byddai cwestiwn o’r fath erioed wedi cael ei chodi ar gyfer materion hil a chrefydd, ac yn dweud bod y drafodaeth wedi bod yn un “plentynnaidd, bychanol ac anghyfrifol.”

Cwrteisi

“Erfyniaf arna chi, fel un sy’n gweithio i gorff cyhoeddus, i ddiwallu eich cyfrifoldebau moesol ble mae cydraddoldeb yn y cwestiwn yn y dyfodol ac i wneud eich gwaith cartref cyn gadael i’r fath raglen fynd ar yr awyr,” meddai Arfon Jones yn ei lythyr.

“Os am drin y Gymraeg yn y dyfodol byddai’n dda i chi ddangos elfen o gwrteisi tuag at yr iaith, a’r bobl sy’n ei siarad, drwy sicrhau ei bod yn cael ei thrafod gan arbenigwyr a ddim gan gyfranwyr sydd ddim yn siarad yr iaith a gydag ychydig iawn o wybodaeth am y pwnc.”