Mae nifer o fudiadau wedi ymateb i’r cyhoeddiad ar faes yr Eisteddfod y gallai rôl Comisiynydd y Gymraeg gael ei diddymu fel rhan o argymhellion Papur Gwyn yn ymwneud â’r Gymraeg.

Ymateb chwyrn oedd gan Cymdeithas yr Iaith i’r cyhoeddiad gydag aelodau’r mudiad yn herio Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, trwy gydol y sesiwn.

Yn ôl Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mae’r comisiynydd wedi “ennill ei phlwy” ac mae’r cyhoeddiad yn “gam enfawr yn ôl”.

“Rydyn ni’n poeni’n fawr fod y comisiynydd yn cael ei ddileu ac ein bod yn cymryd cam enfawr yn ôl ac yn troi mewn cylchoedd a bod rheoleiddio a hyrwyddo yn mynd i fod o dan yr un corff,” meddai Heledd Gwyndaf wrth golwg360.

“Gallwch chi ddim gwneud y ddau beth: ei blismona ar un llaw a hefyd bod yn neis a thrio ei hyrwyddo ar y llaw arall. Dyw hynny ddim yn bosib felly rydyn ni’n poeni am hynny.

“Mae e’n dweud yn y Papur Gwyn fod angen ymestyn y safonau i’r sector breifat ac rydym ni’n falch bod hynny’n cael ei gadw. Ond rydyn ni yn poeni mai bil mewn gwirionedd yw hwn ar gyfer y cwmnïau mawr a’r corfforaethau, a ddim ar gyfer pobol Cymru. Dyw e ddim wir yn symud ymlaen o gwbwl.”

Ansicrwydd am y dyfodol

“Mae’n rhaid i mi ddweud, o leiaf pan mae gynnoch chi Gomisiynydd Iaith mae gynnoch chi rywun gallwch chi anelu atyn nhw gyda’ch sylwadau a’ch syniadau,” meddai Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, Richard Morris Jones.

“A phoeni ychydig bach ydw i ar y funud ynglŷn â beth yn union fydd y dyfodol, beth yn union bydd yn cael ei sefydlu?

“Mae’n braf iawn dweud bod modd sefydlu rhyw gomisiwn neu ryw bwyllgor, ond mae’n anodd iawn wedyn, mynd at unigolyn a chael arweiniad gan unigolyn. Mi fyddwn i’n teimlo ychydig bach yn ansicr ynglŷn â’r dyfodol.”

“Siomedig tu hwnt”

“Mae Plaid Cymru yn poeni bod yr hyn sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw yn mynd i wanhau’r sefyllfa o ran hawliau siaradwyr Cymraeg,” meddai’r Aelod Cynulliad a llefarydd y Gymraeg Plaid Cymru, Siân Gwenllïan.

“Mae sôn am ddileu rôl y comisiynydd yn peri pryder oherwydd mae rheoleiddio a’r gwaith mae’r comisiynydd wedi bod yn gwneud wedi sicrhau hawliau i siaradwyr Cymraeg.

“Mae peidio cymryd y cyfle i ehangu deddfwriaeth i’r sector breifat yn siomedig tu hwnt yn dilyn miri Sports Direct wythnos yma. Yn sicr mae angen deddfu yn y sector. Dydi sôn am berswadio a hwyluso a chydweithio ddim yn mynd i fod yn ddigon da yn anffodus.”

Datblygiadau

“Mae’n amlwg bod y Llywodraeth wedi rhoi ystyriaeth i’r ffordd orau o weithredu’r holl bethau gyda’r iaith Gymraeg,” meddai Llywydd Merched y Wawr, Sandra Morris.

“Ac efallai mai dyna’r ffordd ymlaen yw cael comisiwn yn hytrach nag un person achos mae’n dipyn o [beth] i ddisgwyl i Meri Huws, i wneud y cyfan. Felly mae rhywun yn edrych ymlaen yn awchus i weld beth fydd y datblygiadau.”