Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio yn ystod lansiad y Papur Gwyn ar faes yr Eisteddfod heddiw
Dyw Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws ddim wedi crybwyll dyfodol ei staff yn ei hymateb i gyhoeddi Papur Gwyn gan Lywodraeth Cymru sy’n argymell cael gwared ar ei swydd hi.
Ond mae’r Papur Gwyn gan Lywodraeth Cymru yn nodi y bydd staff swyddfeydd y Comisiynydd yn cael eu trosglwyddo i swyddfa’r Comisiwn newydd.
Mae’r papur yn argymell sefydlu Comisiwn i wireddu’r weledigaeth o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywed Meri Huws fod “unrhyw ddatblygiad i annog siaradwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, gyda sefydliadau ac o ddydd i ddydd, yn rhywbeth cadarnhaol”.
Yn dilyn y cyhoeddiad, mae chwech wythnos o ymgynghoriad yn dechrau heddiw ac yn dod i ben ar Hydref 31.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud “nad ydyn nhw’n disgwyl y bydd diswyddiadau” o ganlyniad i weithredu argymhellion y Papur Gwyn.
Prawf
Yn ei datganiad, mae Meri Huws yn dweud y bydd hi’n egluro mewn adroddiad i’r ymgynghoriad fod:
– 90% o alwadau ffôn bellach yn cael eu hateb yn Gymraeg neu’n ddwyieithog gan sefydliadau oedd ymhlith y cyntaf i weithredu ar ei Safonau;
– bod 76% o siaradwyr Cymraeg “yn cytuno fod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella”;
– a’i bod yn “bwysig nad ydym yn colli’r momentwm hwn”.
“Croesawu un sefydliad”
Dywed Meri Huws, ymhellach, ei bod hi’n croesawu creu un sefydliad i hybu a rheoleiddio “os bydd modd sicrhau adnoddau digonol i wireddu hynny ac annibyniaeth briodol i’r sefydliad”.
“Mae’n hynod bwysig fod pobol ar lawr gwlad yn cael cyfle i gyfrannu at y drafodaeth, gan ddilyn trefn ddemocrataidd.
“Byddwn ni fel corff Comisiynydd y Gymraeg hefyd yn cymryd rhan yn y drafodaeth, fel y bo’n briodol,” meddai.
“Yn y cyfamser, bydd ein gwaith ni, gyda sefydliadau cyhoeddus yn sicrhau gwasanaethau cadarn yn y Gymraeg, gyda busnesau ac elusennau yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg ac yn bwysicach fyth, fel llais annibynnol i’r dinesydd Cymreig, yn parhau.”