Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
Fe fydd rôl Comisiynydd y Gymraeg yn cael ei diddymu fel rhan o Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru yn ymwneud â’r Gymraeg.

Y Comisiynydd Meri Huws fu’n gyfrifol am roi’r Safonau Iaith ar waith er mwyn sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw tynnu’r holl waith o hybu a rheoleiddio’r Gymraeg ynghyd er mwyn gwireddu’r weledigaeth o sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Argymhellion 

Mae’r argymhellion sydd i’w cael yn Taro’r cydbwysedd iawn: Cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg yn cynnwys:

– Sefydlu Comisiwn y Gymraeg i drefnu a chydlynu’r gwaith o hybu’r iaith ledled Cymru

– Ei gwneud yn gliriach i’r cyhoedd, cyrff cyhoeddus a busnesau at bwy y gallan nhw droi os ydyn nhw eisiau datblygu eu defnydd o’r Gymraeg

– Rhoi mwy o eglurder i siaradwyr Cymraeg o ran pa wasanaethau y mae’n rhaid i gyrff eu darparu yn Gymraeg, a gweithio tuag at gynyddu’r defnydd o’r gwasanaethau hynny

– Helpu cyrff i ddatblygu eu capasiti i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg

– Symleiddio’r prosesau o lunio Safonau’r Gymraeg a’u gorfodi, a chael gwared ar y fiwrocratiaeth sy’n rhan o ddelio â diffyg cydymffurfiaeth cyrff â’r Safonau er mwyn sicrhau bod achosion yn cael eu hunioni’n gyflym.

– Bod Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am osod Safonau ar gyrff drwy reoliadau a hysbysiadau cydymffurfio. Bod Comisiwn y Gymraeg yn gyfrifol am fonitro a gorfodi cydymffurfiaeth â’r Safonau.

– Cael gwared â’r cyfyngiadau yn y ddeddfwriaeth bresennol fel bod modd gosod Safonau ar unrhyw gorff, cyn belled â bod hynny o fewn pwerau’r Cynulliad.

Yn ôl Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru, Alun Davies, roedd ymatebion i gais am farn sefydliadau’n “dangos bod cefngoaeth gyffredinol i’r Safonau a’u heffaith gadarnhaol ar wasanaethau Cymraeg”.

Ond fe ddywedodd ei bod yn “bwysig ein bod yn cydnabod y gwaith caled mae’r Comisiynydd wedi’i wneud”.

‘Biwrocratiaeth’

Ond fe dynnodd Alun Davies at feirniadaeth am “y fiwrocratiaeth sydd ynghlwm â’r Safonau”.

Ychwanegodd: “Gwnaeth hyn inni feddwl nad ydyn ni wedi taro’r cydbwysedd iawn rhwng y gwaith o hybu’r Gymraeg ar yr un llaw, a rheoleiddio gwasanaethau Cymraeg ar y llaw arall.

“Mae’r cynigion hyn yn y Papur Gwyn yn adlewyrchu’r adborth hwn. Ry’n ni eisiau canolbwyntio o’r newydd ar y gwaith hybu, ynghyd â newid sut mae system y Safonau’n gweithio i sicrhau ei bod yn rhoi hawliau i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon bosib.

“Dw i’n credu y bydd Comisiwn y Gymraeg yn gyfrwng cryf i gyflawni’r ddwy nod.”

Ychwanegodd y byddai’n ceisio “gwneud gwelliannau i’r broses Safonau” ac yn “paratoi’r ddeddfwriaeth angenrheidiol i’w roi ar waith”.

Dywedodd y byddai’n gosod rheoliadau Safonau ar gyfer cyrff iechyd cyn diwedd y flwyddyn, ac y byddai’r Comisiynydd yn ganolog i’r gwaith hwn.

Yn dilyn ei gyhoeddiad heddiw, fe fydd cyfnod ymgynghori o 12 wythnos yn dechrau ac yn gorffen ar Hydref 31.