David Crystal
Os yw’r Gymraeg am oroesi i genedlaethau’r dyfodol, mae’n rhaid iddi addasu, yn ôl arbenigwr iaith o Gaergybi.

Mae’r Athro David Crystal yn cyfeirio at y geiriau Saesneg sy’n cripio i’r Gymraeg, a dywed fod hynny’n rhywbeth sy’n rhaid “ei barchu”.

“Y broblem fwyaf dw i’n ei weld dros y byd i gyd yw’r genhedlaeth hŷn yn beirniadu’r bobol ifanc am beidio â chael purdeb iaith y maen nhw’n gyfarwydd ag o,” meddai David Crystal wrth golwg360.

“Mae hyn yn arwydd peryglus, achos mae’n rhaid i’r Gymraeg newid, yn union fel y mae holl ieithoedd y byd yn newid – yr unig ieithoedd nad sy’n newid yw ieithoedd sy’n marw.”

Addasu

Yn ol David Crystal, mae gan “bob iaith wahaniaeth cenhedlaeth gref rhwng aelodau hŷn ac iau’r gymdeithas”.

“Byddwch chi’n aml yn clywed yma yng Nghaergybi bobol ifanc yn siarad Cymraeg gyda llawer mwy o Saesneg ynddi na fyddai’r bobol hŷn yn gyfforddus yn ei ddefnyddio,” meddai.

“Mae geiriau cool Saesneg wedi bod yn cripio i’r Gymraeg ers amser hir. Mae’n digwydd ymhob iaith wrth gwrs.”

Ac wrth ei holi a ydy’r geiriau Saesneg sy’n britho’r Gymraeg yn ei boeni? “Na, ddim o gwbwl. Mae’n dangos fod yr iaith yn fyw, yn iach ac yn addasu i amgylchiadau.”

Rhieni y genhedlaeth nesaf

Mae’n pwysleisio fod yn rhaid i iaith bobol ifanc sydd â mwy o Saesneg ynddo gael ei barchu oherwydd – “pobol yn eu llencyndod yw rhieni’r genhedlaeth nesaf”.

“Os ydyn nhw’n cael eu troi i ffwrdd gan iaith, gall yr iaith honno farw’n sydyn iawn.

“Mae angen sicrhau eu bod yn cael pob cyfle posib i ddefnyddio a gweld y Gymraeg ymhob agwedd sy’n bwysig iddyn nhw – y dyddiau hyn pethau fel y we a’r cyfryngau cymdeithasol yw’r pethau hynny,” meddai.

Saesneg “yn newid yn ddramatig”

Mae David Crystal yn cymharu’r newid yn y Gymraeg gydag ieithoedd eraill, yn cynnwys y Saesneg.

“Mi ddechreuodd hi’n iaith Germanig, ond erbyn heddiw dim ond tua 20% o’r geiriau yn Saesneg sydd yn Germanig ac mae’r gweddill yn eiriau o’r Lladin, Ffrangeg a mwy na 400 o ieithoedd o bob cwr o’r byd.

“Mae hyn wedi newid y Saesneg yn ddramatig. Ond heb y newid yna fyddai Saesneg ddim wedi dod yn iaith fyd-eang,” meddai.

“Mae pob iaith yn benthyg o ieithoedd eraill. Mae’n gallu achosi ychydig o boen, ansicrwydd ac anghysur, ond nid yw’n golygu dirywiad. Yn syml mae’n golygu fod iaith yn newid ei chymeriad.”