David Crystal (Llun cyhoeddusrwydd)
Mae’r “gymuned gyfan” ym mro’r brifwyl eleni wedi cydio ym mrwdfrydedd yr iaith a’r paratoi, yn ôl David Crytsal o Gaergybi.
Ag yntau wedi’i fagu ar yr ynys ac yn un o’r arbenigwyr mwyaf ar ieithoedd y byd, dywed fod yr Eisteddfod yn rhoi “proffil uwch i’r Gymraeg”, a’i fod wedi gweld hynny ar stepen ei ddrws eleni.
“Dw i wedi gweld pobol sydd wedi symud i’r ardal ac yn siarad Saesneg yn gwneud llawer o waith codi arian ac yr un mor frwdfrydig am yr Eisteddfod â rhywun o gefndir Cymraeg,” meddai David Crystal wrth golwg360.
“Maen nhw’n amlwg wedi dal y naws a’r cyffro pan fo Eisteddfod yn ymweld ag ardal – ac yn parchu ei fod yn rhoi proffil uwch i’r Gymraeg sydd ei angen.”
Y gymuned gyfan
Mae’n rhaid i “bob sector o’r boblogaeth” gydio yn y Gymraeg os yw’r iaith am ffynnu, meddai David Crystal. Ac mae ymgyrchoedd paratoi a chodi arian yr Eisteddfod yn cynnig hynny, meddai.
“Mae’n hynod bwysig wrth ymdrin ag iaith sydd am amser hir iawn wedi bod mewn perygl, fod y gymuned gyfan yn cydio ynddi, nid dim ond y bobol iaith gyntaf.
“Gallaf weld arwyddion clir o hynny’n digwydd ar hyn o bryd,” meddai gan gyfeirio at y gweithgarwch yn ei ardal lle bu hefyd yn rhan o’r gwaith o sefydlu’r ganolfan gelfyddydol Ucheldre yng Nghaergybi.
‘Arwydd peryglus’
Mae’r arbenigwr iaith wedi teithio i bob cwr o’r byd i astudio ieithoedd gan gyhoeddi ymchwil toreithiog ynghyd â sawl gwyddoniadur.
Ac wrth edrych ar y Gymraeg o bersbectif byd, dywed mai ei neges bennaf yw: “Un o’r pethau cyffredin am y Gymraeg yw bod pobol yn teimlo nad yw eu hiaith yn ddigon da am nad ydyn nhw’n siarad neu’n ysgrifennu yn y modd y mae traddodiad yn ei ddisgwyl.
“Mae hyn yn arwydd peryglus i’r iaith os oes gan bobol gywilydd neu embaras. Mae’n rhaid ymollwng rhag hynny a bod yn falch o’r amrywiaeth o Gymraeg sy’n rhan o’r gymuned,” meddai.