Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cadarnhau eu bod nhw wedi gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ymchwilio i helynt Sports Direct.

Daeth arwyddion i’r amlwg ddoe oedd yn awgrymu bod staff y siop ym Mangor wedi’u gwahardd rhag siarad Cymraeg.

Roedd yr arwydd, sy’n cael ei rannu ar wefan Twitter, yn dweud mai “Saesneg yw iaith swyddogol y cwmni”, a bod “rhai aelodau staff wedi bod yn siarad â’i gilydd mewn ieithoedd ac eithrio Saesneg”.

Mae’r nodyn yn “atgoffa staff fod rhaid iddyn nhw siarad Saesneg â’i gilydd bob amser” er mwyn i’r “holl staff ddeall ei gilydd”.

Mae’r polisi, meddai’r cwmni, yn cynnwys “sgyrsiau personol yn ystod oriau gwaith”.

‘Peryglon’

Wrth gyfiawnhau’r polisi, dywed yr arwydd fod siarad unrhyw iaith ac eithrio Saesneg yn achosi “amryw o beryglon… gan gynnwys iechyd a diogelwch”, a’i fod “er lles pawb fod staff yn deall ei gilydd bob amser”.

Serch hynny, dywed y cwmni y gall sgyrsiau preifat rhwng aelodau staff ar y safle y tu allan i oriau gwaith fod “yn newis iaith” y staff.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni wrth golwg360 fod yr arwydd yn “fwy perthnasol i’w siopau yn Lloegr na Chymru”.

‘Brawychus’

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw’n bwriadu gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg gynnal ymchwiliad.

Dywedodd cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith, Manon Elin: “Mae’r adroddiadau hyn wir yn frawychus. Mae’n warthus beth mae’r cwmni yn ei wneud.

“Ers 2011, mae’n anghyfreithlon i gwmniau ymyrryd â rhyddid unigolion i siarad Cymraeg â’i gilydd. Rydyn ni wedi cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg gan ofyn iddi gychwyn ymchwiliad yn syth.

“Mae hyn hefyd yn pwysleisio’r angen i’r holl sector breifat ddod o dan ddeddfwriaeth iaith a phwysigrwydd Comisiynydd cryf.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld manylion y ddeddf iaith newydd gryfach gan y Llywodraeth yr wythnos hon.

“Yn sgil Brexit, mae’n bwysig bod pobl yn dathlu amrywiaeth er lles ein holl ddiwylliannau a chymunedau yng Nghymru.”