Mae Ysgol Ramadeg Auckland wedi cyflogi athro mewn ymgais i geisio achub un o ieithoedd brodorol y Maori.

Cafodd gwersi eu cynnig y llynedd, ond dyma’r tro cyntaf i athro sy’n rhugl yn yr iaith te reo gael ei gyflogi.

Roedd hi’n orfodol y llynedd i ddisgyblion ym mlwyddyn naw ddysgu’r iaith, ond bellach mae’n cael ei chynnig fel opsiwn i ddisgyblion ym mlwyddyn 10 hefyd.

Bydd gwersi yn ieithoedd y Maori yn cael eu cynnig i bawb yn yr ysgol erbyn 2020, a dim ond oherwydd bod Neitana Lobb wedi cael ei gyflogi y mae’n bosib cynnig y gwersi.

Fe fydd yr athro’n cydweithio â staff mewn adrannau eraill i ddarganfod ffyrdd o gyflwyno’r iaith frodorol mewn pynciau eraill hefyd ac mae’r ysgol yn dweud y bydd hynny’n gymorth i ddisgyblion ddeall diwylliant a thraddodiadau’r Maori hefyd.

Dywedodd pennaeth yr ysgol, Tim O’Connor fod dadleuon cryf o blaid cynnig gwersi te reo yn yr ysgol.

“Os ydych chi’n mynd i fyd busnes neu i’r sector llywodraeth yn Seland Newydd, mae’n iawn bod yna ddisgwyliad i chi ddeall te reo y Maori, deall tikanga (traddodiad) neu mihi (cyfarch).

Ymgyrch

Fe fu ymgyrchu brwd dros gyflwyno ieithoedd brodorol y Maori yn yr ysgol ers 2015, yn dilyn adolygiad o gwricwlwm yr ysgol.

Bryd hynny, roedd yr ysgol yn cynnig gwersi Ffrangeg, Lladin, Siapanaeg a Sbaeneg, ac roedd rhai yn awyddus i gynnig Mandarin.

Ond roedd yr ysgol yn sylweddoli y byddai’n anodd cyflogi athro oedd yn gymwys i ddysgu te reo.

Pan gafodd y pwnc ei gynnig yn 2015, dim ond 30 allan o 500 o fechgyn oedd wedi penderfynu parhau â’r pwnc ym mlwyddyn 10.

Dim ond 6% o ddisgyblion yr ysgol sy’n dweud eu bod nhw o dras y Maori.

Mae llywodraeth Seland Newydd yn cefnogi cynlluniau i ddarparu gwersi yn yr iaith frodorol ym mhob ysgol yn y wlad.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod ganddyn nhw “gyfrifoldeb” i sicrhau bod yr iaith “nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu yn Aotearoa (Seland Newydd)”.