Mae mudiad y Gorlan wedi dod o hyd i gartref newydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn eleni.

Wedi blynyddoedd yn gwasanaethu Maes B mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi bydd y Gorlan yn gwasanaethu yn eu maes gwersylla nhw yn Fferm Penrhos, Bodedern, yn ystod cyfnod y brifwyl.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil penderfyniad yr Eisteddfod Genedlaethol i beidio â gwahodd y Gorlan i ddarparu eu gwasanaethau yn eu maes ieuenctid y flwyddyn yma.

Cyhoeddodd yr Eisteddfod ar ddechrau’r mis y byddai’r awenau’n cael eu trosglwyddo i “gwmnïau proffesiynol” yn dilyn argymhelliad gan adroddiad gwerthuso.

Bydd y Gorlan yn darparu gwasanaeth ychydig yn wahanol i’r arfer yn eu cartref newydd, ond mi fydd y gwirfoddolwyr yn parhau i gynnig gofal bugeiliol, ac yn rhedeg bâr te a choffi.

“Wrth ein boddau”

“‘Dyn ni wrth ein boddau bod gwirfoddolwyr Y Gorlan wedi cynnig eu gwasanaeth i ni eleni ar ein safle sy’ lai na milltir o faes y ’Steddfod ei hun,” meddai Swyddog Adloniant Cymdeithas yr Iaith, Rhys Llwyd.

“Yn sicr, bydd yn ychwanegu at yr ymdeimlad o ŵyl ar y fferm ac yn ychwanegu at brofiad y rhai fydd yn aros gyda ni ac yn dod i’n gigs. Mae’n hyfryd bod gwirfoddolwyr Y Gorlan yn awyddus i gyfrannu at ein hwythnos fydd yn wir ddathliad o ddiwylliannau Cymraeg, wedi ei gwreiddio yn y gymuned.”

“Estyn gofal bugeiliol”

“Ar ôl blynyddoedd o gyd-weithio hapus gyda Maes B mae’n destun calondid bod gwaith y Gorlan am barhau mewn lleoliad gwahanol,” meddai Steffan Morris ar ran pwyllgor y Gorlan.

“Mi fydd natur y gwasanaeth byddwn ni’n ei gynnig yn newid rhywfaint, ond yr ethos yn aros yr un peth – mi fyddwn ni’n syml iawn yn rhedeg bâr te a choffi ‘cyfrannu i rannu’, estyn gofal bugeiliol a chwilio am ffyrdd ymarferol i roi cymorth i bobl yn ystod yr wythnos.”